Gŵyl Flynyddol Eglwys Minny Street
‘Nesáu at Dduw sydd dda i mi.’ (David Jones, 1805-68; C.Ff. 76). Geiriau’n seiliedig ar Minnau, nesáu at Dduw sydd dda i mi (Salm 73: 28a), ac a ysgrifennwyd ar ôl i’r emynydd golli ei ferch yn 13 mlwydd oed.
Mae Duw yn llond pob lle,
presennol ym mhob man;
y nesaf yw efe
o bawb at enaid gwan;
wrth law o hyd i wrando cri:
‘Nesáu at Dduw sydd dda i mi.’
Os ‘llond pob lle’, onid oes rhaid i Dduw fod yn ‘(b)resennol ym mhob man’! Yn yr ail linell pwysleisir presenoldeb Duw. Mae’r Duw ‘llond pob lle’ yn bresennol yn ein bywydau ni. Oherwydd hyn, nid oes yr un sefyllfa yn anobeithiol. Amherthnasol neges y llinell gyntaf oni bai fod Duw yn bresennol yng nghanol ein bywyd. Onid dyna pam yr ymbiliwn “Aed dy bresenoldeb hyfryd gyda’th weision i bob man” (John Thomas, 1730-1803; C.Ff. 184). Perthyn ‘nesaf’ a ‘nesáu’ yn agos i’w gilydd yn y pennill. Os gwyddom fod Duw yn agos atom bob amser, pam bod angen nesáu ato? Ein dewis ni yw nesáu neu beidio. Nid oes gorfodaeth yn Nuw. Fe’n gwahoddir i nesáu. Does dim rhaid, ond gyda’r nesâd daw nerth, diddanwch, maddeuant, hedd a bywyd: “Yr Iesu sy’n fy ngwadd i dderbyn gyda’i saint, ffydd, gobaith, cariad pur, a hedd a phob rhyw nefol fraint.” (Lewis Hartsough, 1828-1919 cyf. Ieuan Gwyllt, 1822-77; C.Ff. 483) Nid methiant Duw i gynnig bendith a chynhaliaeth yw’r broblem, ond ein hamharodrwydd ni i dderbyn.
Yr Arglwydd sydd yr un
er maint derfysga’r byd;
er anwadalwch dyn
yr un yw ef o hyd;
y graig ni syfl ym merw’r lli:
‘Nesáu at Dduw sydd dda i mi.’
Nid yw Duw yn newid. Newidia’r byd; ‘rydym ninnau, a phobl, yn newid. Erys Duw yn ei gariad a’i drugaredd. Mae eisiau oedfa, cwrdd gweddi a’r weddi feunyddiol i’n harbed rhag colli golwg ar y peth pwysicaf sy’n rhoi ystyr a chyfeiriad i bob peth arall mewn bywyd: cadernid y cariad ‘ni syfl...’. Mae Duw ‘yn llond pob lle’ ac ‘yn bresennol ym mhob man’; yr un yw yng nghanol amrywiaeth ‘pethau’ ein bywyd. Dyma galon ein ffydd. Cyn bod sôn amdanom, ac wedi darfod pob sôn amdanom, yng ngrym y dŵr, a dwndwr y rhaeadrau, ‘y graig ni syfl’. Yno, wrth y graig hon, angorwn gwch ein byw.
Yr hollgyfoethog Dduw,
ei olud ni leiha,
diwalla bob peth byw
o hyd â’i ‘wyllys da;
un dafn o’i fôr sy’n fôr i ni:
‘Nesáu at Dduw sydd dda i mi.’
Eiddo Duw ‘hollgyfoethog’ bob peth. Cawn ganddo, bob peth: “Duw’n darpar o hyd ar raid dynol-ryw yw’n cysur i gyd a’n cymorth i fyw...” (Cernyw, 1843-1937; C.Ff.119). Erfyniwn ar i “‘wyllys da” Duw ddysgu’n hewyllys da ninnau. Boed i ni fod yn ‘un dafn o’i fôr’ i Gaerdydd, Cymru a’r byd. Gwyddom, er dymuno eu cyffwrdd mewn daioni, mai trwsgl a lletchwith ein hymwneud. Hoffem wasanaethu’r llai ffodus; amharod ydym i rannu’n wir aberthol ag eraill. Byddai'n dda gennym ofalu am greadigaeth Duw; yn hytrach, llygru a gwastraffu ei hadnoddau a wnawn. Mae angen Duw arnom, i’n cynorthwyo, a’n gwneud yn gyfryngau mwy effeithiol i fod yn ‘wyllys da’ y Duw sy’n ‘llond pob lle...’.
Mewn trallod, at bwy’r af,
ar ddiwrnod tywyll du?
Mewn dyfnder, beth a wnaf,
a’r tonnau o’m dau tu?
O fyd! yn awr, beth elli di?
‘Nesáu at Dduw sy dda i mi.’
Yn ein gofid ‘Nesáu at Dduw sydd dda i mi.’ Ganddo cawn gysur a nerth. Pan oera ffydd a chred yn llwydo, ‘Nesáu at Dduw...’ Gyda Duw, yng nghwmni Pobl Dduw, yw’r lle gorau i fod pan bod Duw ymhell. Pam? Oherwydd gyda Duw cawn ddoethineb i’w ganfod! Ganddo cawn amynedd i ddisgwyl oddi wrth Dduw...llygaid i weld a chalon i fyfyrio ar y bendithion a gawn yng nghwmni Pobl Dduw.
Anwadal hynod yw
gwrthrychau gorau’r byd;
ei gysur o bob rhyw,
siomedig yw i gyd;
rhag twyll ei wên, a swyn ei fri.
‘Nesáu at Dduw sydd dda i mi.’
Gellir casglu pethau gorau’r byd ynghyd, ond anwadal ydynt! Nid ‘drwg’, ond ‘siomedig’. Rhaid cadw’n agos at y ‘Peth’, rhag cael ein swyno gan y ‘pethau’...yr adeilad, yr eiddo, yr addoliad, y gymdeithas, yr Ysgol Sul, pob cyfarfod, neges drydar, pregeth a homili, a chyfarfod PIMS. Er mai da ydynt, gallant ein twyllo a’n swyno. Gellir colli'r ‘Peth’ – cariad Duw yng Nghrist – ynghanol y pethau hyn. O nesáu at Gariad Duw gallwn gyfoethogi addoliad, cryfhau cymdeithas, ac effeithioli tystiolaeth yr eglwys leol.
Eleni, nesawn, a hynny’n gyson at Dduw; ein gobaith ydyw. Gobaith sy’n ein calonogi i ddal ati i ddal ati yn ei waith; hau cariad mewn tir o gerrig a ffrwythloni’r diffeithdir â’n ffydd. Argyhoeddi byd a phobl nad yw’r drwg yn drech na’r da. ‘Nesáu at Dduw sydd dda i mi.’
(OLlE)