• Y diweddaraf
  • Hafan
  • Amdanom
  • Dyddiadur
  • Yr Ifanc
  • Cysylltu
Menu

Eglwys Minny St.

Street Address
City, State, Zip
Phone Number

Your Custom Text Here

Eglwys Minny St.

  • Y diweddaraf
  • Hafan
  • Amdanom
  • Dyddiadur
  • Yr Ifanc
  • Cysylltu

'YMLAEN': Y SUL A'R WYTHNOS NEWYDD

December 8, 2017 Owain Evans

Edrychwn ymlaen at yr Oedfa Foreol Gynnar (10/9 am 9:30 yn y Festri): clychau, ac unawd biano gan ein Gweinidog! Gweinir brecwast bach a nwyddau Masnach Deg yn y Festri rhwng y ddwy Oedfa Foreol.

Yr Adfent hwn, gwahoddwyd ni i ddathlu’r Nadolig gyda Marc, Mathew, Luc ac Ioan, pob un yn ei dro. Bydd pob cartref yn wahanol. Tŷ mawr sydd gan Mathew, (Oedfa Foreol, 10:30). Bu’r tŷ yn gartref i’r teulu ers cenedlaethau, ac mae pob cenhedlaeth wedi ychwanegu ychydig ato. Mae lluniau’r teulu ym mhob cwr a chornel o’r tŷ. Mae’r tŷ heddiw, fel pob amser yn llawn pobl, llawn croeso.

Liw nos (18:00) byddwn yn dathlu’r Nadolig gyda Luc. Yr adeg yma yn y flwyddyn mae Luc wrth ei ffodd. Mae’r ardd a thu faes y tŷ yn drwm o olau, pob lliw a llun o lewyrch ac addurn. Wedi croesi rhiniog y drws, nid oes y fath bwysau o olau a disgleirdeb. Ychydig iawn o addurniadau sydd oddi mewn i’r tŷ. Cartref syml, twt a glân ydyw. Yng nghrog uwchben y lle tân mae portread, olew ar gynfas, o wyneb benywaidd hardd: Mair. Mae’r gwrthgyferbyniad rhwng tu faes a thu mewn yn drawiadol, ac yn peri ychydig o anesmwythyd. Efengyl felly yw Efengyl Luc: mae iddi brydferthwch arwynebol, amlwg, ac mae iddi brydferth sydd ynghudd o dan y wyneb.

Bydd cyfle, drwy gyfrwng y casgliad rhydd, i gyfrannu tuag at waith Cymdeithas y Beibl.

Bydd ein Diaconiaid yn cwrdd nos Lun. Gofynnwn am arweiniad Duw wrth iddynt fwrw golwg dros y flwyddyn galendr hon, ac edrych a threfnu i’r dyfodol.

Mae dod ynghyd mewn grwpiau bach i ddysgu a thrafod yn ffordd wych o gefnogi ein gilydd wrth i bawb ohonom ddilyn llwybr yr Adfent. Cynhelir gennym eleni tri chyfarfod i’r diben hwnnw. Bydd yr ail nos Fawrth, (12/12; 7:30 yn y festri): Rhyfeddod yr Ymgnawdoliad (Rhyfedd, rhyfedd gan angylion, Ann Griffiths, 1776-1805) yn y Festri

Dathliad Nadolig Babimini bore Gwener (15/12; 9:45-11:15 yn y Festri): gwên, a chroeso, cwmni a phaned i’r rhieni; ac i’r plantos: hwyl a chân, chwarae a chwerthin a... Siôn Corn! Gorffwysed bendith ar Fabimini. ‘Rydym yn ddyledus i’r rheini sy’n rhoi o’u hamser i gynnal y fenter bwysig hon.

← CALENDR ADFENT TU CHWITH (8)CALENDR ADFENT TU CHWITH (7) →

Eglwys Annibynnol Minny St.
Y Waun Ddyfal, Caerdydd
CF24 4ER

Lawrlwytho
Dogfennau

©minny St 2021