'DEUGAIN A DEG' - TYMOR Y PASG (4)

"Myfi yw'r atgyfodiad a'r bywyd. Pwy bynnag sy'n credu ynof fi, er iddo farw, fe fydd byw; a phob un sy'n byw ac yn credu ynof fi, ni bydd marw byth ..." (Ioan 11:25 BCN)

Dyma ddehongliad Piero della Francesca (1415-1492) o Atgyfodiad Iesu Grist. Dyma waith pwysicaf della Francesca - ei gampwaith. Comisiynwyd y gwaith gan awdurdodau ei dre’ enedigol, Sansepolcro yn Twsgani.

'La Risurrezione' - Piero della Francesca (1415-1492) Sansepolcro, Twsgani.

'La Risurrezione' - Piero della Francesca (1415-1492) Sansepolcro, Twsgani.

Holltir y ffresgo yn dair rhan gan Grist a’r bedd.

Yn y rhan waelod mae’r milwyr yn cysgu - y rhain sydd ar lefel llygad y gwyliwr. Sylwch ar y llythrennau sydd ar darian y milwr wrth droed Iesu: ‘S’ a darn o ‘P’ - SPQR wrth gwrs.

Sylwch yn ofalus ar y pedwar ohonynt. Ai cysgu mae'r rhain i gyd tybed? Gellid awgrymu fod y pedwar yn ymgorfforiad o bedwar ymateb posibl i’r Atgyfodiad. Gan symud o’r chwith i’r dde, mae’r cyntaf a’i ben yn ei ddwylo mewn siom a chywilydd. Mae’r nesaf yn cysgu - difaterwch ac esgeulustod. Mae’r nesaf wedyn yn gweddïo - addoliad a defosiwn. Mae’r olaf ar led mewn syndod a braw.

Sylwch ar Iesu - Ceidwad cryf. Mae ôl ei ddioddefaint arno o hyd: gwelwder a gwaed ond Crist buddugol yw hwn. Brenin byw, Arglwydd bywyd ydyw.

Sylwch, i orffen fod y coed a’r bryniau ar yr ochr chwith yn noeth, llwm a gaeafol. Yr ochr draw, mae egni’r gwanwyn wedi cydio. Mae’r coed a'r llwyni yn ei dail. Mae pobl yno’n byw: gwelir castell yn y cefndir. Mae Atgyfodiad Iesu yn atgyfodiad i bawb a phob peth.

F’Arglwydd Iesu Grist, fab Duw, Waredwr, bydd drugarog wrthyf. Amen.

(OLlE)