Ffair arfau DPRTE (Defence Procurement, Research, Technology and Exportability Exhibition) ym mis Mawrth.
Beth allasai fod yn well?
Cwbl addas yw cynnal UK's Premier Defence Procurement Event ym mis Mawrth gan mae eiddo ‘Mawrth’ y mis hwn. Hen dduw rhyfel oedd Mawrth. ‘Roedd gan y Rhufeiniaid meddwl mawr o’r duw Mawrth. Adeiladent demlau heirdd iddo; offrymid y blaidd a’r fwltur - y creulonaf o’r holl anifeiliaid ac o’r adar ysglyfaethus - yn ebyrth i’r creulonaf o dduwiau.
Mawrth: duw rhyfel. Dengys y ffair arfau fod y duw Mawrth yn fyw ac yn iach. Ond, â ninnau’n tynnu tua diwedd y mis sydd eiddo i Ryfel, rhaid cofio ein bod ni yma yng Nghymru’n dechrau’r mis gan ddathlu Dygwyl ein nawddsant: Dewi. Ychydig a wyddom i sicrwydd amdano, ond gwyddom ddigon i fod yn sicr mai anogaeth i’n cyfnod oedd ei anogaeth olaf yntau: "Arglwyddi, frodyr a chwiorydd, byddwch lawen a chedwch eich ffydd a’ch cred."
Mae gennym neges syml bwysig i’r byd yn gyfan: mis Mawrth, mis o eiddo Rhyfel; ie; ond mae’r mis hwnnw’n dechrau gyda Dewi a llawenydd cadw’r ffydd.
Mae’r ffaith fod mis Rhyfel yn dechrau gyda dydd Gŵyl ein Nawddsant yn ddameg o’n ffydd.
Ni fwriadwyd i bobl Dduw ddal ysbryd yr oes erioed, ond i’w herio a’i gywiro.