Er ein bod dan gyfyngiadau Lefel 4, cynhwysir mannau addoli ymysg y rhestr o gyfleusterau sydd yn cael parhau ar agor ac ystyrir mynd i addoli yn reswm dilys dros adael ein cartrefi. Yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru, byddwn felly yn parhau i gydaddoli yn y capel gan gadw yn fanwl at ganllawiau a rheoliadau’r llywodraeth. Mae’r angen i gadw pellter yn cyfyngu’n sylweddol ar nifer y gynulleidfa a all fod yn y capel a rhaid felly bydd dilyn y cyfarwyddiadau manwl a ddosbarthwyd eisoes i’r aelodau. Gan na fydd pawb o’n haelodau mewn ffordd i ystyried mynychu’r addoliad yn y capel, parhawn gyda’r trefniant sydd yn ein galluogi i gyd-addoli drwy gyfrwng y taflenni a baratowyd ynghyd â chynnig cyfle i ddilyn yr addoliad trwy gyfrwng Zoom.