Tymor yr Adfent - 1
Eseia Broffwyd, 1477-83; Capel Sixtus (y Capel Sistinaidd), Y Fatican, gan Michelangelo Buonarroti (1475-1564). Eseia: dyn o ddylanwad anghyffredin; bu gerydd ac yn gysur. Heriodd brenhinoedd Jwda (Eseia 1: 1) i ystyried yn llawn goblygiadau eu penderfyniadau gwleidyddol, a heriodd ei bobl i fyw’n deilwng o’r safonau a osodwyd yn nod iddynt gan Dduw. Cadwodd gerydd a chysur mewn perffaith densiwn creadigol (Eseia 1: 14 ac Eseia 40: 1a). Yn y llun, er bod Eseia’n eistedd, gwyddom mai clamp o ddyn ydoedd. Bu’n darllen neu ysgrifennu, gosododd ei lyfr o’r neilltu, a’i fys yn cadw’r tudalen. Tarfwyd arno gan ddau geriwb! Try’r proffwyd at y ceriwb: "Beth? Beth wyt ti ei eisiau?". Atebir: "’Drychwch! ‘Drychwch beth sydd yn digwydd!" gan gyfeirio sylw’r proffwyd at bortread o’r Cwymp (Genesis 3:1-12). Er i Dduw rybuddio Adda i beidio bwyta o bren gwybodaeth da a drwg, aeth apêl y gwaharddedig yn drech nag ef. Gwyddom ninnau am apêl yr hyn a waherddir, ac am yr hyn y cynigir i ni fel man gwyn fan draw. Wrth estyn amdano gallwn golli popeth sydd gennym. Gwyddom er hynny nad yw’r stori’n gorffen gyda’r cwympo.
Neges 1: Mae Duw yn chwilio amdanom. Ni allwn guddio rhag ein Duw; Mae Duw yn llond pob lle, presennol ymhob man (David Jones, 1805-68; C.Ff.: 76). Try Cariad Duw'r cyfan wyneb i waered i chwilio amdanom ... chwilio nes cael, nid er mwyn cosbi, ond er mwyn cymodi. ‘Rydym yn wrthrychau Cariad Duw ac ni fodlonir y Cariad hwnnw hyd nes ein cael yn ôl. Yng nghanol prysurdeb mawr y Nadolig cofiwn gerydd y Cwymp a chysur y Cymodi.
The Last Judgement 1912 gan Wassily Kandinsky (1866-1944). Lliwiau’n hollti, chwalu, tasgu a sgrialu; yn llifo, cronni am eiliad neu ddwy, cyn llifo o’r newydd. Chwiliwn am batrwm sefydlog; ni chawn hynny gan Kandinsky; ni chawn ganddo chwaith stori, na disgrifiad na phortread. Dim ond mynegiant o arswyd a gobaith! Yr angel glas, ac utgorn melyn yn ei law? Delwedd draddodiadol o’r Farn Ddiwethaf (Mathew 24:31a). Un o nodweddion y llun yw’r defnydd o ddu; crëir y naill adain gan ddefnyddio’r lliw glas, a’r llall wedyn gan linellau du. Fel arall, saif y lliwiau a’r du ar wahân, ond yn yr angel daw lliw a duwch ynghyd. Dyma fynegiant o arswyd a gobaith, yn naill ynghlwm wrth y llall.
Neges 2: Arswyd a Gobaith. Arswyd? Nid oes neb yn hoff o feddwl am y Farn Ddiwethaf. Mae’r cyfan yn peri braw. Arswyd? Nid duwch arswyd du yw’r Farn Ddiwethaf i gyd. Nid arswyd du yw’r unig wirionedd am ein byw a’n byd. Mae Gobaith hefyd. Perthyn i’r llun ganol llonydd, gwyn a golau: Gobaith. Wrth feddwl am y Farn Ddiwethaf, nid oes modd osgoi tywyllwch y drwg a wnaethom, a’r daioni nas gwnaethom. Erys Gobaith. Yr Un - Iesu - Arglwydd - Gwaredwr - Brawd - a esgynnodd at Dduw i eiriol trosom, yw’r Un sy’n dod i’n barnu. Er mor real y du, ni ellir diffodd na chyffroi'r canol golau gwyn: Gobaith.
Winterland 2010; Anselm Kiefer
Mae diffyg lliw yn nodweddiadol o waith yr arlunydd Anselm Kiefer (gan. 1945). Meddai Kiefer, "The truth is always grey." Cywir? Ai llwyd yw lliw'r gwir amdanom? Onid cymysgedd yw’r natur ddynol? Byddai bywyd cymaint haws pe byddai’r gwirionedd amdanom yn ddu a gwyn. Yn 2015, mynna mwy a mwy o bobl nad llwyd yw lliw'r gwir; dymunant beintio’r byd yn ddu a gwyn. Llwyd, ac nid du a gwyn, yw lliw'r gwirionedd! Try pob gwyn yn llwydwyn, ac o dipyn i beth yn llwyd; a phob du yn welwlas, ac yn araf yn llwyd. Anorfod hyn gan fod y gwacter, euogrwydd ac anobaith sydd gymaint rhan o’n byw a’n bod yn llwydo popeth. Llwyd yw lliw'r gwir amdanom ... ond lliwgar yw gwirionedd Duw. Dathliad yw’r Nadolig o wirionedd lliwgar Duw. Pan ddaeth y Duw i’n byd, daeth lliw ffydd, gobaith a chariad i fyd llwyd. Mae Keifer yn rhannol gywir. Gwelodd y gwir am bobl, ond ni welodd y gwirionedd am Dduw.
Neges 3: Gwirionedd amryliw yw gwirionedd Duw. Dyma'r unig wirionedd gwerth cydio ynddo, i fyw iddo ac i fyw arno. Y Nadolig hwn, derbyniwn liw Duw i’n bywyd o’r newydd. Gallwn fentro wedyn, yn hyderus ac yn sicr, i flwyddyn newydd, ac i hen fyd llwyd, gyda holl liw Duw ar balet ein bywyd, ac yn ein llaw, brwsh ein ffydd, yn barod i beintio’r byd i Dduw.