RUTH
Ruth 1: 16-18 a 2: 10-13; Eseia 25:4 a Salm 90: 17
Mae Ruth yn un o gymeriadau mwyaf prydferth y Beibl. Ystyr enw Ruth yw ffrind, cyfaill. ’Roedd dyfnder rhyfeddol i’w cyfeillgarwch ac ymgysegriad - ’roedd yn well ganddi fentro i wlad ddieithr, i ganol pobl newydd, derbyn ac addoli Duw gwahanol, wynebu’r tlodi a chaledi anorfod, yn hytrach na mynd yn ôl i’w chynefin at ei theulu, ei phobl a’i ffrindiau. ’Roedd yn well ganddi fod yng nghwmni Naomi doed a ddelo, na byw hebddi. Dim ond y cariad a fu rhwng Dafydd a Jonathan sydd i’w gymharu â’r cariad sydd yn cydio’r ddwy hon wrth ei gilydd.
Yn ôl pob tebyg, cafodd Llyfr Ruth ei ysgrifennu yn yr un cyfnod â Llyfr Jona. Credir hefyd mai’r un pwrpas a diben oedd i’r ddau; pwysleisio y dylai crefydd fod yn ddigon mawr ac yn ddigon cryf i groesawu pobl o genhedloedd eraill. Yn lle bod crefydd yn crebachu meddwl pobl, dylai ledu eu gorwelion. A dyna rôl Boas yn y stori. Y bonheddwr a ofalodd fod Naomi a Ruth yn cael lloffa yn amser y cynhaeaf. O dipyn i beth fe enillodd Ruth galon Boas. Ganwyd iddynt fab, Obed. Trwyddo bendithiwyd y genedl, oherwydd ef oedd tad Jesse, a Jesse oedd tad y Brenin Dafydd.
Mewn ystyr real iawn mae Ruth yn llawn cymaint o arloeswr crefyddol ag yr oedd Abraham. Trodd hwnnw ei gefn ar hen fyd a ffordd o fyw i ddarganfod ffydd newydd. Gadawodd hon ei chynefin, teulu a chydnabod a dewis dod, a bod, yn rhan o deulu Abraham. Mae awdur Llyfr Ruth yn mynegi hynny’n ddistaw bach! Cymharwch alwad Abraham: "Dywedodd yr Arglwydd wrth Abram, "Dos o’th wlad, ac oddi wrth dy dylwyth a’th deulu, i’r wlad a ddangosaf i ti"" (Genesis 12: 1) gyda geiriau Boas wrth Ruth "... fel y gadewaist dy dad a’th fam a’th wlad enedigol, a dod at bobl nad oeddit yn eu hadnabod o’r blaen" (Ruth 2:12). Mae stori Ruth y Foabes yn rhan annatod o hanes holl ddisgynyddion Abraham.