Heddiw yn 1906, ganed Dietrich Bonhoeffer. Gweinidog yn Eglwys Lutheraidd yr Almaen. Gwrthododd gyfaddawdu â’r Natsïaid, fe’i carcharwyd yn 1943 oherwydd ei gysylltiad â’r cynllun aflwyddiannus i ladd Hitler. Dienyddiwyd ef yn 1945.
Yn eu cymdeithas ag Iesu, mae ei ddilynwyr wedi ildio eu hewyllys eu hunain yn llwyr i ewyllys Duw, ac felly gweddïant y gwneler ei ewyllys drwy holl gyrrau’r ddaear ... Rhaid i enw Duw, teyrnas Dduw, ewyllys Duw, fod yn brif amcan gweddi Gristnogol.
(The Cost of Discipleship gan Dietrich Bonhoeffer; 1937)
Arglwydd, cymer orsedd fy nghalon, a theyrnasa yno. Amen