Yn y dydd hwnnw fe ddywedir, Wele, dyma ein Duw ni. Buom yn disgwyl amdano i’n gwaredu; dyma’r Arglwydd y buom yn disgwyl amdano, gorfoleddwn a llawenychwn yn ei iachawdwriaeth.
(Eseia 25:9)
Paratowch yn yr anialwch ffordd yr Arglwydd,
unionwch yn y diffeithwch briffordd i’n Duw ni.
(Eseia 40:3)
Yn sŵn y Gair, croesawyd ni i Gwrdd Gweddi’r Adfent. Cyfle i dawel fyfyrio, i ddathlu dyfodiad yr Arglwydd Iesu, gan ddiolch am ystyr ac arwyddocâd ei Adfent ef.
...bwrdd
...tair cannwyll
...cylch o gadeiriau
...tair sedd wag; cadeiriau cadw.
Â’r Gweinidog yn ein harwain yn dawel bwyllog o brofiad yr emynydd i weledigaeth y proffwyd; o weddi i weddïo a chyd-weddïo, daeth y cwmni bychan i weld arwyddocâd y tair sedd wag. ‘Roedd pob un sedd wag yn cynrychioli rhai o gymeriadau’r Adfent. Ioan (Mathew 3:1-6) oedd piau’r sedd wag gyntaf: llais un yn galw yn yr anialwch. Paratowch ffordd yr Arglwydd, unionwch y llwybrau iddo. Yng ngwawl y gannwyll gyntaf, buom yn cofio a diolch am bobl fel Ioan - lleisiau yn yr anialwch - pobl yn ein hannog i ddyheu am gyfiawnder a daioni, i weithredu trugaredd a charedigrwydd; i wrthsefyll yn gadarn pob creulondeb a gormes yn enw, ac er gogoniant ein Harglwydd Iesu.
Eiddo Mair yr ail gadair wag a'r ail gannwyll. Yn ymyl croes Iesu oedd ei fam (Ioan 19:25). Brawddeg drist. Hon wedi ei gario, yn gnawd ei chnawd am naw mis. Hon mewn poen a gwewyr wedi esgor arno. Hon wedi ei fagu a'i feithrin; wedi ei wylio'n tyfu, yn blentyn, yn fachgen, yn ŵr ifanc, yn ddyn. Hon trwy'r cyfan wedi gweddïo a gobeithio, gobeithio a gweddïo. A nawr, yn sefyll wrth droed croes garw, trwy'r dagrau hallt yn gweld y bywyd yn llifo'n goch ohono. Yn ymyl croes Iesu oedd ei fam. Perthyn i Mair deyrngarwch cadarn di-droi’n-ôl. Y teyrngarwch hwn yw her ac esiampl Mair i ni. Boed ffyddlondeb a theyrngarwch yn ein gwasanaeth; ymlyniad a gwres yn ein cariad; dyfalbarhad a menter yn ein penderfyniad i ddilyn Iesu.
Y gadair a'r gannwyll olaf? Iesu - goleuni’r byd (Eseia 60: 1- 3/ Ioan 8: 12). Diolch am oleuni anniffodd Iesu. Plant y goleuni ydym, plant y dydd. Boed i’r goleuni hwn gysuro bob un sydd mewn tristwch, afiechyd, unigrwydd a gofid.
Angenrheidiol yw ymollwng ar dro i dawelwch gweddi a chymorth cyd-weddïo. Ymlonyddu yn nhangnefedd Duw a chwmni’n gilydd. Diolch am Gwrdd Gweddi.