Ein braint fel eglwys oedd cael bod yn gartref i wasanaeth Dydd Gweddi Byd-eang y Chwiorydd eleni. Parataowyd y gwasanaeth gyfoethog hwn gan Chwiorydd Cristnogol Ciwba.
Cafwyd hwyl wrth baratoi, ac o'r gwasanaeth a'r cyd-addoli - bendith fawr.
Rhoddion Juana, Yamilka, Silviana, Liudimila, Olivia ac Ana Paula.
(Graffeg clawr blaen y drefn gwasanaeth gan Ruth Mariet Trueba Castro)
Ar gefndir melyn, sef y lliw cenedlaethol, mae drws agored a hwnnw’n symbol o undod a chydweithio. Uwchben y drws ceir ffenestr liw sy’n dangos lliwiau baner Ciwba. Y tu allan gwelir ffordd gwlad ag ymyl o goed palmwydd brenhinol, coed cenedlaethol Ciwba. Mae’r fen ychen a welir a ffyrdd y wlad, yn cario’r dyn adref o’i waith. Ar y chwith gwelir rhan o lun gwraig â’i llaw yn cydio mewn llaw plentyn. Mae’r lliwiau croen gwahanol yn cynrychioli amrywiaeth pobl Ciwba.