Yn sgil llacio pellach ar y rheoliadau o ran ail-agor addoldai, o 2il Awst ymlaen manteisir ar yr hawl i addoldai agor ar gyfer addoliad byr. Yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru a chyrff crefyddol, bydd yr addoliad yn brofiad gwahanol iawn i’r hyn rydym yn gyfarwydd ag ef, a bydd yr angen i gadw pellter yn cyfyngu’n sylweddol ar nifer y gynulleidfa a all fod yn y capel. Rhaid bydd dilyn y cyfarwyddiadau manwl a ddosbarthwyd i’r aelodau.
Gan na fydd pawb o’n haelodau mewn ffordd i ystyried mynychu’r addoliad yn y capel, parhawn felly gyda’r trefniant sydd yn ein galluogi i gyd-addoli drwy gyfrwng y taflenni a baratowyd gan ein Gweinidog.