Edrychwn ymlaen at y Sul nesaf; Sul llawn, ac amrywiol ei fendithion: Ieuan a Glyn fydd yn arwain yr Oedfa Foreol Gynnar (11/6 am 9:30 yn y Festri). Boed bendith.
Bydd cyfle i gyfrannau nwyddau tuag at Fanc Bwyd Caerdydd yn ystod y dydd a bydd brecwast bach a nwyddau Masnach Deg yn y Festri wedi’r Oedfa.
Mae Sul y Drindod yn ddathliad o holl gyflawnder y Duwdod. Y Drindod fydd testun dwy bregeth y Sul gan Owain (10:30 a 18:00). Mae hanesyn am Awstin Sant yn cerdded ar hyd glan y môr un bore braf, pan welodd fachgen bach yn gwneud twll yn y tywod. Wedi gorffen tyllu, dechreuodd y bachgen gludo ychydig o ddŵr y môr a’i dywallt i’r twll. ‘Roedd Awstin yn digwydd myfyrio ar y Drindod ac ar fawredd Duw ar y pryd, a bu’r olygfa a welodd yn fodd i’w argyhoeddi nad oedd ganddo fwy o obaith i gyflwyno gogoniant cyflawn y Duwdod i bobl nag oedd gan y bachgen bach i gludo’r môr i gyd i’w twll bach a wnaeth yn y tywod.
Mae Duw Tragwyddol, y Tri yn Un; y Tad sy’n creu ac yn cynnal bywyd y byd, a’r Mab sy’n amlygu cariad Duw yn y byd ac yn dwyn iachawdwriaeth i bobl, a’r Ysbryd Glan sy’n nerthu’r credadun ar ei daith, gymaint yn fwy na’n hadnabyddiaeth ni ohono a’n holl ymdrechion gwan i’w ddisgrifio, neu i’w gynnwys yn ddestlus yn ein mân gredoau.
Gogoniant ein ffydd, fodd bynnag yw bod holl adnoddau diderfyn y Duwdod - y Tad a’r Mab a’r Ysbryd Glan - ar gael ar ein cyfer.
Pnawn Sul (14:30), ein braint fel eglwys fydd cael bod yn gyfrifol am baratoi te i’r digartref yn y Tabernacl.
Bydd ein Diaconiaid yn cwrdd nos Lun. Gofynnwn am arweiniad Duw wrth iddynt edrych a threfnu i ddiwedd y flwyddyn waith hon.
Koinônia amser cinio dydd Mercher (14/6; 12:00): Mae ‘na fwy i bryd o fwyd o gwmpas bwrdd na bodloni’r archwaeth am fwyd. Mae’n gyfle i rannu syniadau, i drafod, i gymdeithasu a dod i nabod ein gilydd yn well. Dyna sy’n digwydd yn y Koinônia misol.
Babimini bore Gwener (16/6; 9:45-11:15 yn y Festri): gwên, a chroeso, cwmni a phaned i’r rhieni; ac i’r plantos: hwyl a chân, chwarae a chwerthin.
Dydd Sadwrn, Mehefin 10 a Dydd Sul, Mehefin 11: ein brodyr a chwiorydd yn Eglwys Llanfair, Penrhys yn dathlu eu pen-blwydd yn 25 oed! Boed bendith ar y dathliadau. Duw a fo’n blaid iddynt yn eu cenhadaeth a gweinidogaeth.
Gweddi dros Gyfarfodydd Blynyddol Undeb yr Annibynwyr Cymraeg; 15-17/6 Gofalaeth Gellimanwydd a’r Gwynfryn Rhydaman a Moreia, Tycroes:
Arglwydd, dyro dy fendith ar Gyfarfodydd Blynyddol Undeb Annibynwyr Cymru fel y byddo i ti ein harwain i gariad teyrngar, ac ufudd-dod daionus. Amen