Heddiw, yn 1851 bu farw Joseph Mallord William Turner (gan. 1775) Un o bennaf arlunwyr Prydain. Turner, yn anad neb a ddysgodd pobl i weld gwerth y tirlun. Llwyddodd Turner, mewn bwrlwm byw o liw a symud, i ddal gogoniant tirwedd ar gynfas. Mae’r lluniau yn gyfarwydd iawn bellach, ond yn eu cyfnod, ‘roedd y lluniau hyn yn tarfu ar bobl, gan mor gwbl anghyfarwydd y testun: gwawr a machlud, llif afon a thonnau'r môr; tirwedd. Ehangodd Turner gylch celfyddyd ei gyfnod i gynnwys prydferthwch cynhenid natur. Cyn Turner, ystyriwyd tirwedd yn ddim byd amgenach na chefndir; gwaith diflas i arlunwyr eilradd oedd tirwedd. Gellid awgrymu yn lled ddiogel mai pennaf gamp Turner oedd cael pobl, trwy gyfrwng ei gelfyddyd, i 'weld' y gogoniant gorwel, afon a môr; ac o weld, gwerthfawrogi. Un peth yw 'edrych', peth cwbl arall yw 'gweld'
'Shoreham Bay, Evening Sunset' John Constable
'Roedd John Constable (1776-1837) yn un o gyfoedion Turner. Mynnai Constable:
There is nothing ugly: I never saw an ugly thing in my life. Let the form of an object be what it may - light, shade and pesrpective will allways make it beautiful.
Mae Turner a Constable, y naill a'r llall yn ein hatgoffa o ogoniant y greadigaeth. Gall y materol amlygu’r cysegredig; ym mhlygion y materol mae’r ysbrydol yng nghudd.
Tueddwn i rannu bywyd yn barhaus yn faterol ac ysbrydol, yn gorff ac enaid, a sôn am bopeth yn ei le a'i le i bopeth. Cyfyngir felly ar y cysegredig; gwasgir Duw i ryw gornel o’n bywyd. Hanfod y Nadolig yw gwneud i ffwrdd â chrefydd fel cylch ar wahân ym mywyd pobl. Ym Methlehem daw crefydd a bywyd - Duw a dyn - yn un: calon a chnawd, corff ac enaid, ein hysbrydolrwydd a'n materoliaeth yn un. Ehangwyd cylch y cysegredig i gynnwys popeth bywyd: nid oes neb na dim yn hyll na diflas bellach; nid oes yr un sefyllfa ddynol, felly’n anobeithiol.
(OLlE)