Deisyfwn fendith ar Oedfaon y Sul. Bydd ein Hoedfa Foreol (10:30) dan arweiniad aelodau Llandaf a Phontcanna. Testun y wers Ysgol Sul fydd Dameg y Samariad Trugarog (Luc 10:25-37). Bydd paned yn y Festri wedi’r Oedfa.
Bydd Oedfa Hwyrol (18:00) dan arweiniad y Cylch Elusen. Cawn gwmni Wil Morus Jones o BanglaCymru, ein helusen eleni, yn yr Oedfa. Diolch i bawb a fu ynglŷn â’r trefnu. Bydd paned yn y Festri wedi’r Oedfa.
Cytûn: Diwygiad Protestannaidd 500 (Hydref 31; 11yb): Gwasanaeth Coffa ac Ymrwymiad Cenedlaethol Cymru yn Eglwys Gadeiriol Gatholig Fetropolitan Dewi Sant (Heol Charles). Lluniaeth ysgafn am hanner dydd (bydd angen tocyn). Darlith Goffa Gethin Abraham-Williams am 14:00 yn Cornerstone (gyferbyn â’r Eglwys Gadeiriol): Yr Athro Densil Morgan- "Catholigrwydd Protestaniaeth: etifeddiaeth y Diwygiad yn yr unfed ganrif ar hugain" (Traddodir y ddarlith yn Saesneg)