Edrychwn ymlaen at Sul y Tadau. Yn yr Oedfa Foreol (10:30) Addfwynder (Galatiaid 5:22) fydd testun neges ein Gweinidog i’r plant. Addewir sgwrs braidd yn swnllyd! Elian fydd yn arwain defosiwn y plant. Cynhelir Ysgol Sul yn ôl ein harfer. Thema adnodau’r oedolion y Sul hwn fydd ‘Moliant’.
Geiriau ymffrost rhai arweinwyr crefyddol a fu’n gwrando Ioan Fedyddiwr sydd yn y frawddeg gyntaf o ddwy a fydd dan sylw yn homili Owain: Y mae gennym Abraham yn dad. (Mathew 3:9). Daw’r ail adnod o Ddameg y Mab Afradlon: yr oedd hwn, fy mab, wedi marw, a daeth yn fyw eto; yr oedd ar goll, a chafwyd hyd iddo. (Luc 15:24). Tynnu darlun o Dduw a wna Iesu yn nhad yr afradlon. Un fel hyn yw Duw. Duw ydyw sydd yn ymhyfrydu yn ei blant. Duw sydd yn llawenhau pan ddychwel ei blant yn ôl o’u crwydro ffôl. Pan osodwn y ddwy frawddeg at ei gilydd, sylweddolwn mai Duw yn ymhyfrydu mewn plant yw Duw nid mewn cyndadau.
Liw nos yn yr Oedfa Hwyrol (18:00) bydd ein Gweinidog y parhau â’r gyfres o bregethau ‘Pobl y Testament Newydd’. Testun ein sylw y tro hwn fydd Mathias (Actau 1:15-26), a hynny trwy gyfrwng tri athronydd, a bardd: Blaise Pascal, William James, Søren Kierkegaard a Byron!
Bydd y gymdeithas yn parhau yn Koinônia: swper blasus a sgwrs ddifyr mewn bwyty Eidalaidd cyfagos.
PIMS nos Lun (19/6; 19:00-20:30 yn y Festri).
Nos Fawrth (20/6; 19:00): ‘Genesis’. Awr fach hamddenol yn y festri: defosiwn syml yn arwain at fymryn o waith llaw syml a buddiol.
Dydd Iau (22/6; 10:30-13:30): Taith Gerdded Rhiwbeina (manylion yng nghyhoeddiadau'r Sul).
Dydd Iau (22/6) i Ddydd Sul (25/6) Gŵyl Flodau Eglwys Dewi Sant (yn cynnwys cyfraniad gan Minny Street: Teilo Sant. Diolch i bawb a fu ynglŷn â’r trefnu) yn Eglwys Dewi Sant: Yn ôl traed y Seintiau Celtaidd. Gweddïwn y "daw Efe i’r ŵyl".