EFA - Genesis 2:20-25 a 3:6-7
Lluniodd Duw Adda o lwch y tir, ac er bod digon o anifeiliaid ac ati o gwmpas, "nid da bod y dyn ar ei ben ei hun." ‘Roedd angen ‘ymgeledd cymwys’ arno. Felly, lluniodd Duw Efa allan o ochr Adda. Nid o’i droed y lluniwyd hi, iddi fod yn ddarostyngedig iddo, nac ychwaith o’i ben, iddi fod yn feistres arno, ond o’i ochr er mwyn iddynt fod yn gydradd.
Sylwch ar ymateb Adda. Dyma’r tro cyntaf inni glywed hwn yn siarad. "Dyma hi", meddai. Wrth ei fodd! Heb os ac oni bai dyma "ymgeledd cymwys. Asgwrn o’m hesgyrn, a chnawd o’m cnawd" (Genesis 2:23a). Gwêl ei hunan ynddi; gwêl y berthynas annatod sydd rhyngddynt. Bellach, mae ei dynged ef ynghlwm wrth ei thynged hithau.
"Yr oedd y dyn a’i wraig ill dau yn noeth ..." Yng nghwmni eu Creawdwr mae’r ddau yn hollol ddiamddiffyn ond yn hollol ddiogel, "ac nid oedd arnynt gywilydd" (Genesis 2:25). Onid braf pe bai hon yn frawddeg glo’r stori? Dyma sut y dylai stori dda orffen bob amser! Yn anffodus, mynd ymlaen a wna hon ac wrth fynd ymlaen gwaethygu a wna pethau.
Daw'r sarff, "yn fwy cyfrwys na’r holl fwystfilod gwyllt" (Genesis 3:1). Gwyddoch yr hanes! Wedi gosod mwy o bwys ar eiriau llyfn y sarff nag ar air Duw, cymerodd Efa o ffrwyth y goeden yng nghanol yr Ardd a’i roi, hefyd, i Adda. Sylwch nad oedd angen rhyw lawer o berswâd ar Adda, "a bwytaodd yntau" yn ddigon bodlon. Na, nid hudoles oedd Efa, ac Adda druan yn ddiniwed. Mae’r ddau mor ffôl â’i gilydd, yn dilyn wrth gynffon y sarff i ganol storm o ofidiau.
CAIN ac ABEL - Genesis 4:9
Ganwyd meibion i Adda ac Efa: Cain ac Abel. Cwestiwn oesol cyfoes yw cwestiwn Cain: "Ai fi yw ceidwad fy mrawd?" Wrth drafod Genesis 1:3, gofynnodd hen athro Ysgol Sul i’w ddosbarth, sut y gellid gwybod i sicrwydd bod y nos wedi darfod a’r dydd wedi dechrau? "Efallai", meddai un aelod o’r dosbarth, "bod y nos wedi darfod a’r dydd wedi dechrau pan i chi’n gwybod, o weld anifail yn y pellter, mae dafad ydyw, ac nid ci?" "Na", atebodd yr athro. Cynigodd un arall, "Pan i chi’n gallu gweld coeden yn y pellter, a gwybod mai coeden afalau yw hi nid coeden gellyg." "Na", atebodd yr athro eto. "Wel", meddai un arall o’r disgyblion wedi syrffedu, "pryd felly?" "Pan i chi’n gallu edrych i wyneb person, a gweld mae eich brawd neu chwaer ydyw. Oherwydd os na allwch weld hynny, mae’n nos arnom."
- A fyddai person na chafodd erioed ei demtio yn berson llawn?
- Sut y mae pobl yn ceisio ffoi oddi wrth euogrwydd heddiw?
- A allwn ddod i berthynas iawn â Duw heb fod mewn perthynas iawn â'n gilydd?