BATHSEBA (1)
2 Samuel 11:1-4
Syllodd Dafydd yn ofalus arni ... y mwyaf i gyd yr edrychai, y mwyaf i gyd y dymunai ei chael! Heb oedi dim galwodd amdani a gorwedd gyda hi. Yna aeth Bathseba adref!
Beth a wyddom amdani? Pwy oedd Bathseba? Yn wraig briod mewn cymdeithas batriarchaidd, rhaid ei bod yn gwybod mai’r gosb am odineb oedd marwolaeth. Pam ildio mor hawdd i Dafydd? Ofn? Pwy all ddweud ‘Na’ wrth frenin? Uchelgais? Wedi trefnu’r cyfan yn ofalus, i’r manylyn lleiaf, a rhwydo Dafydd?
Beth am Ureia, gŵr Bathseba (2 Samuel 11: 3, 15, 24 a 26)? Oedd ei farw yntau yn dristwch iddi neu’n rhyddhad (sylwch ar 2 Samuel 11: 27)? Ni wyddom! Wrth i ni gyfarfod â hi am y tro cyntaf mae Bathseba yn gymeriad dyrys a dirgel. Ni sydd yn gorfod penderfynu - ai gwraig ddiniwed yn ysglyfaeth i rym a chwant brenin oedd hi, neu feistres ei ffawd?
BATHSEBA (2)
1 Brenhinoedd 1:15-21
Mentrwn ymlaen ychydig flynyddoedd. Mae Dafydd bellach yn wan, a haul ei frenhiniaeth yn brysur fachlud. Mae cwestiwn dewis ei olyniaeth heb ei benderfynu. Mae’r mab, Adoneia, cryf a phenstiff (rhyfedd o debyg i’w dad i ddweud y gwir!) yn hawlio’r orsedd, a Joab, cadfridog y fyddin, ac Abiathar, offeiriad Dafydd yn gefn iddo. Mae Nathan o blaid Solomon. Nathan sydd yn perswadio Bathseba i achub y blaen ar Adoneia a’i garfan. Aeth Bathseba i mewn at Dafydd a’i atgoffa ei fod wedi addo’r deyrnas i Solomon. Mae hi’n cydio yn yr awenau a gyda chefnogaeth hollbwysig Nathan yn sicrhau’r orsedd i Solomon.
O ferch ifanc hardd yn cael ei galw i bresenoldeb brenin, i fam-frenhines gall a chraff, mae mwy i hon na welir! Cymeriad dyrys a dirgel - ni waeth beth ddaeth ar ei thraws, mynnodd oroesi.
Yn sgil stori Dafydd a Bathseba gellid trafod yr adnodau isod:
"Bydd drugarog wrthyf, O Dduw, yn ôl dy ffyddlondeb; yn ôl dy fawr dosturi, dilea fy meiau; golch fi’n lân o’m heuogrwydd, a glanha fi o’m pechod." (Salm 51: 1-2)
"Arglwydd, yr wyt wedi fy chwilio a’m hadnabod ..." (Salm 139: 1)