Yn yr Oedfa Foreol (10:30) cawn dystio i fedydd Betsi. Yn homili’r Gweinidog cawn gyfle, yng nghyd-destun cofnod Mathew o lanhau’r Deml (21:12-17) a’r plant yn gweiddi yn y deml (ad.14), i ystyried a’i priodol geiriau Charles Wesley: ... wrth fy ngwendid trugarha. (373; cyf. W.O. Evans).
Liw nos (Oedfa Hwyrol, 18:00) Abraham fydd testun ein sylw (Genesis 12:1-12). Bydd ein Gweinidog yn trafod pwysigrwydd MENTRO a GADAEL; ein TWPDRA a PHERFFEITHRWYDD Duw gan orffen gydag anhepgorion ein gweinidogaeth: GALWAD a GWASANAETH.
Bydd y gymdeithas yn parhau yn Koinônia: swper blasus a sgwrs ddifyr mewn bwyty Eidalaidd cyfagos.
Nos Lun (16/7; 19:30): ‘Genesis’. Awr fach hamddenol yn y festri: defosiwn syml yn arwain at fymryn o waith llaw syml a buddiol.
Babimini bore Gwener (20/7; 9:45-11:15 yn y Festri): gwên, a chroeso, cwmni a phaned i’r rhieni; ac i’r plantos: hwyl a chân, chwarae a chwerthin. Gorffwysed bendith ar Fabimini. ‘Rydym yn ddyledus i’r rheini sy’n rhoi o’u hamser i gynnal y fenter bwysig hon.