'The Healing of Saint Thomas' Anish Kapoor (gan. 1954)
The Healing of St Thomas gan Anish Kapoor (gan. 1954)
"Os na welaf ôl yr hoelion yn ei ddwylo, a rhoi fy mys yn ôl yr hoelion, a’m llaw yn ei ystlys, ni chredaf fi byth." (Ioan 20:25 BCN)
Dyma enghraifft o gelfyddyd sydd ond wir yn gweithio’n iawn o’i weld. Mae Kapoor wedi torri twll yn y wal wen - a’r twll yn goch fel archoll - fel clwyf. Ond, ni wyddom hynny. Ni wyddom a’i lliw ar wyneb llyfn y wal sydd yno, neu dwll yn y wal. Mae’r gwaith yn deffro chwilfrydedd ac yn eich tynnu at y 'clwyf'; rhaid ei gyffwrdd i weld beth ydyw go iawn - lliw ar wal, neu doriad yn llawn lliw. Cawn ein cyflyru i wneud yn union fel y gwnaeth Thomas gynt - estyn a chyffwrdd y briw er mwyn gwybod. I bob amcan a chyfrif mae holl addewidion ffydd yn ffolineb - rhith a lledrith, twyll hyd yn oed - ond wrth estyn allan i gyffwrdd ynddynt, i gydio ynddynt darganfyddwn mai real ydynt - real iawn iawn, a chwbl ddibynadwy.
Yna meddai (Iesu) wrth Thomas, "Estyn dy law a’i rhoi yn fy ystlys. A phaid â bod yn anghredadun, bydd yn gredadun." Atebodd Thomas ef, "Fy Arglwydd a’m Duw!" (Ioan 20:27,28 BCN)
F’Arglwydd Iesu Grist, fab Duw, Waredwr, bydd drugarog wrthyf. Amen.
(OLlE)