Sgwâr bychan o bapur; cylch enfawr cariad Duw a hunllef ein Gweinidog! Dewch â chroeso i’r Oedfa Deulu bore Sul (10:30) i weld a deall y cysylltiad rhwng y tri pheth â’i gilydd!
Rhwng 12:00 a 13:30 cynhelir ein Cinio Elusennol er budd Cymorth Cristnogol a Masnach Deg. Diolch i bawb a fu ynglŷn â’r trefnu.
Liw nos am 18:00, Oedfa Gymundeb. Echel myfyrdod Owain Llyr fydd celfydd dau arlunydd, Vincent van Gogh a ... Duw. Cawn dystio i fedydd William a Lilian. Wrth y Bwrdd, cawn gyfle i gydymdeimlo â’r galarus yn ein plith, a chofio’r aelodau hynny sy’n methu a bod gyda ni, gan bellter ffordd, cystudd neu henaint. Boed bendith.
Bydd paned a nwyddau Masnach Deg yn y Festri wedi’r Oedfa.
Nos Lun (7/5; 19:00-20:30) PIMS.
Koinônia amser cinio dydd Mercher (9/5): Mae ‘na fwy i bryd o fwyd o gwmpas bwrdd na bodloni’r archwaeth am fwyd. Mae’n gyfle i rannu syniadau, i drafod, i gymdeithasu a dod i nabod ein gilydd yn well. Dyna sy’n digwydd yn y Koinônia misol.
Nos Iau (10/5) Cyngor Eglwysi Cymraeg Caerdydd; (19:30-20:30) Oedfa Cymorth Cristnogol yng Nghapel Salem, Treganna dan arweiniad Cynan Llwyd.