Mae’n loes calon gennym orfod nodi ein bod yn hepgor pob oedfa a chyfarfod yng nghapel Minny Street am y tro. Mae’r penderfyniad hwn yn unol â chyfarwyddyd y llywodraeth a chanllawiau Undeb yr Annibynwyr Cymraeg a byddwn yn ei weithredu yn syth.
Bydd hyn yn chwithig iawn inni fel cynulleidfa Minny Street ond gwneir trefniadau i’n galluogi, am 10:30 bob bore Sul, i “gyd-addoli” yn ein cartrefi drwy gyfrwng taflenni a baratowyd gan ein Gweinidog.
Dosberthir taflenni newydd i gartrefi’r aelodau bob pythefnos. Trwy’r cyfrwng hwn gallwn i gyd fod yn rhan o fyfyrdod yng nghwmni ein gilydd a’n Gweinidog fel teulu.
Gan fod yn gwbl ymwybodol fod hwn yn gyfnod pryderus i lawer, anogir yr aelodau i gysylltu â’r Gweinidog neu’r Ysgrifennydd os ydynt yn dymuno cael sgwrs neu fod angen cymorth ymarferol - yn arbennig felly os wedi hunan-ynysu. Mae gennym nifer o aelodau sydd yn awyddus i fod o gymorth.
Dymunwn bob bendith i bawb yn y cyfnod anodd a heriol hwn.