'Munud i Feddwl' wythnosol ein Gweinidog
Y dydd heddiw yn 1887 ganed T. H. Parry-Williams (m. 1975).
Yn Funud i Feddwl heddiw dyma barodi ar y gerdd ‘Hon’:
Beth yw’r ots gennyf i am eglwys? Dyrnaid mewn lle
Sydd yn llwyddo i’w chadw yn fyw. Nid yw hon mewn tre'
Yn ddim byd ond pentwr o gerrig mewn stryd fach gefn,
A thipyn o ‘shambles’ i’r rhai geisia’i chadw mewn trefn.
A phwy sy’n mynychu’r addoliad, dwedwch i mi.
Pwy ond gweddillion y ffyddlon? Peidiwch, da chwi,
 chlegar am Achos a chariad a gras o hyd:
Mae digon o’r rhain, heb eglwys, i’w cael yn y byd.
‘R wyf wedi alaru ers talm ar glywed grŵn
Ffyddloniaid grwgnachlyd, yn cadw sŵn.
Mi af am dro, i osgoi eu parchusrwydd a’u llên,
I hafan newydd braf, am gwmnïaeth glên.
A dyma fi yno. Diolch am fod ar goll
Ymhell o syrffed geiriau’r pregethwyr oll.
Dyma’r dafarn a’i chriw, dyma ‘shots’ a pheintiau hir;
Dyma’r gwin a’r ‘tapas’ a’r ‘gambas’; ac ar fy ngwir,
Dyma fi, ar fy newydd wedd. Ond wele, rhwng llawr a ne’
Mae lleisiau tawel cyfeillion yn fy ngalw i’r lle.
‘R wy’n dechrau hiraethu braidd; ac meddaf i chwi,
Mae rhyw gywilydd fel petai’n dod drosof i;
Ac mi deimlaf gymdeithas yr eglwys yn llenwi fy mron.
Duw a’m gwaredo, mae’n rhaid im ddychwelyd at hon.
(OLlE)