GRAWYS #1 Y DOETHION

Dymunai’r Doethion ein helpu gyda’r Grawys

Rhufeiniad 12: 11-12

Wrth ystyried pererindod y Doethion neu’r Sêr-ddewiniaid, tueddwn i feddwl amdanynt yn dechrau ar eu taith pan welsant seren newydd yn y ffurfafen, ond o feddwl ychydig yn lletach am hyn o beth, mae’n rhaid bod eu taith wedi dechrau ymhell cyn hynny; wedi’r cyfan nid gwaith hawdd yw gweld seren newydd yng nghanol holl sêr y gofod! Er mwyn gweld seren newydd heb batrwm, rhaid eich bod yn gyfarwydd â threfn yr entrych: patrwm arferol yr holl sêr.

Wrth syllu i’r gofod a’r noson oer, glir, ceisiwch gyfri’r sêr - gwaith amhosibl. Rywbeth ychydig yn haws felly: syllwch i’r gofod gan gofio sut mae un seren yn perthyn i gadwyn, neu i batrwm o sêr.  Cofiwch ddysgu enwau’r patrymau. Buasem ni'n gallu syllu i’r gofod am wythnosau, os nad misoedd heb sylwi fod rhywbeth bach wedi newid, a hynny’n syml am na wyddom ein ffordd o gwmpas y sêr; eu patrymau’n ddryswch i ni, a’u teithiau’n ddieithr. Ffrwyth blynyddoedd o ymroddiad a disgyblaeth yw gwybod digon am sêr y nos i sylwi fod rhywbeth wedi newid, fod patrwm wedi torri, mwclis o sêr wedi ymddatod a bod seren newydd ar newydd daith. Bu’r Sêr-ddewiniaid wrthi’n ddygn am flynyddoedd mawr. Syllant i’r gofod gyda gofal a deall.

Man cychwyn pererindod y Sêr-ddewiniaid oedd yr amser, egni, amynedd a fuddsoddwyd ganddynt i gael adnabod patrymau a theithiau’r sêr yn gywir a llawn. Dechrau’r daith oedd eu hymroddiad a’u disgyblaeth.

Mae ambell gerdyn Nadolig yn cyflwyno’r tri yn dilyn anferth o seren. Os mae seren fawr amlwg oedd seren Bethlehem, nid oedd yn rhaid, am wn i, i’r tri gŵr doeth i fod yn arbennig o ddoeth i’w gweld hi a’i chanlyn! Nid yw Mathew’n manylu am Seren Bethlehem, ond nid seren amlwg mohoni ... gwelsom ei seren ar ei chyfodiad (Mathew 2:2) meddai’r Sêr-ddewiniaid yn syml. Os seren amlwg ei maint a’i disgleirdeb oedd seren Bethlehem, buasai prif offeiriad, ysgrifenyddion y bobl a Herod wedi ei gweld hi, neu o leiaf wedi clywed si a sôn amdani cyn i’r Sêr-ddewiniaid gyrraedd Jerwsalem. A phe bai’r Sêr-ddewiniaid heb astudio’r sêr, yn gyson ofalus, gydag ymroddiad a disgyblaeth, buasent hwythau hefyd wedi colli’r seren newydd hon, ac o’r herwydd wedi colli’r Gair a wnaethpwyd yn gnawd. Ond, gwelsant y seren, daethant i Fethlehem, gwelsant Dduwdod yn y cnawd - hyn oll oherwydd yr hir flynyddoedd o ymroddiad, dyfalbarhad a disgyblaeth.

Dymunai’r sêr-ddewiniaid ein helpu gyda’r Grawys ...

Dymunai’r sêr-ddewiniaid ein hatgoffa bod yn rhaid wrth ddisgyblaeth, oherwydd ni lwyddwn i ddysgu unrhyw beth heb inni fynd drwy gyfnod o ymdrech, ymroddiad a disgyblaeth sydd weithiau’n dreth ar ein hamynedd. Cyfnod o ymdrech, ymroddiad a disgyblaeth yw’r Grawys.

Dymunai’r sêr-ddewiniaid ein helpu gyda’r Grawys ...

Dymunai’r sêr-ddewiniaid ein hatgoffa nad yn ofer y sonnir am fywyd y Cristion fel brwydr. Y mae’n frwydr yn erbyn anawsterau allanol weithiau, ond mae’n frwydr yn gyson yn erbyn ein llacrwydd personol, ein hymroddiad anwadal, ein disgyblaeth gyfnewidiol.

Cyfnod i gydnabod hyn yw’r Grawys, cyfnod i fynd i’r afael â’r pethau hyn yw’r Grawys.

James Jacques Joseph Tissot (1836-1902)