Yr Adfent hwn, gwahoddwyd ni i ddathlu’r Nadolig gyda Marc, Mathew, Luc ac Ioan, pob un yn ei dro. Bydd pob cartref yn wahanol. Tŷ gwahanol iawn sydd gan Ioan, (Oedfa Foreol, 10:30). Gwydr yw’r cyfan bron, ac mae’r cartref hwn o olau olau; wedi ei ddodrefnu’n ddethol a bwriadol i ledu ac amlygu’r golau. Beth yw man cychwyn Efengyl Cariad Duw yng Nghrist? Y mae’r Efengylydd cyntaf, Marc, yn dechrau gyda gweinidogaeth Ioan y Cennad. Â Mathew a Luc â ni ymhellach yn ôl at Abraham, a Mair. Y mae Ioan yn olrhain yr hanes yn ôl i ddechreuad pob peth. Pan grëwyd nefoedd a daear ‘roedd y Gair eisoes mewn bod. Y mae’n gydoesol â Duw, yn un o ran natur â Duw. Fel Duw ei hun, y mae’r Gair yntau yn ffynhonnell bywyd a goleuni.
Ni fydd Ysgol Sul. Bydd y casgliad rhydd yn yr oedfaon y dydd yn gyfle i gefnogi gwaith Cyngor yr Ysgolion Sul.
Ein braint pnawn Sul (14:30), fel eglwys, fydd cael bod yn gyfrifol am baratoi te i’r digartref yn y Tabernacl, yr Âis.
Am 17:00 (sylwch ar y newid amser os gwelwch yn dda) cynhelir ein Dathliad Nadolig: Nadolig ad hoc. Gwahoddir chi i ddod, o’r ieuangaf i’r hynaf, wedi gwisgo fel un o gymeriadau Hanes Geni Iesu Grist. Bydd hyblygrwydd y sgript yn sicrhau fod modd cynnwys pawb a phopeth! Yn dilyn yn syth ymlaen o’r Dathliad hwn bydd Parti Nadolig yr Ysgol Sul a PIMS yn gweini wrth y byrddau.
Nos Lun (18/12; 19:00-20:30) Parti Nadolig PIMS
Cymdeithas Ddiwylliannol Eglwys Minny Street, (19/12; 19:30 yn y Festri): "Dolig unwaith eto" yng nghwmni Hannah Roberts.
Mae dod ynghyd mewn grwpiau bach i ddysgu a thrafod yn ffordd wych o gefnogi ein gilydd wrth i bawb ohonom ddilyn llwybr yr Adfent. Cynhelir gennym eleni tri chyfarfod i’r diben hwnnw. Bydd yr olaf nos Fawrth, (21/12; 7:30): Ein Hymateb i’r Ymgnawdoliad (O deued pob Cristion, Jane Ellis, 1779-1841) yn y Festri.