Braint oedd cael cwmni unwaith eto'r Parchedig Dyfrig Rees (Pen-y-bont ar Ogwr). Cofiwn am lawer ymweliad o eiddo’r pregethwr â Minny Street, a’i ddull deniadol o bregethu. Mae Dyfrig bellach, wedi blynyddoedd o weinidogaethu cadarn, a di-stŵr yng Ngellimanwydd, Rhydaman a Moreia Tycroes, yn weinidog y Tabernacl, Pen-y-bont ar Ogwr. Boed bendith Duw ar ei weinidogaeth.
Arweiniwyd Defosiwn y Plant gan Elin a Ffion, a chawsom ddrama ganddynt! Drama Dafydd a Goliath (Diolch i Arwel John):
Ffion: (yn ofnus)
Waw! Syr! ‘R’ych chi yn anferth!
Y talaf yn y tir!
Mae’ch ‘sgidie chi fel cychod -
Pwy ydych chi yn wir?
Elin: (llais dwfn, awdurdodol)
Hoho! Fi yw Goliath!
Goliath! Cawr mawr cry’!
Pa ots beth yw fy enw!
Pa fusnes yw i ti!
Ffion: (yn fwy ofnus fyth)
‘Rwy’n flin, Syr! Dim ond gofyn!
Ni welais neb mor fawr!
Goliath, Syr! Rwy’n credu
Eich bod chi, wir, yn gawr!
Elin:
A phwy wyt tithe, blentyn?
Pam wyt ti’n gwisgo coch?
Wyt ti’n cefnogi Cymru?
Y sgrym a’r bloeddio croch!
Ffion: (yn fwy hyderus erbyn hyn)
Wel, fi yw Ffion Cara!
Ac mae gan Gymru gôr!
A glywsoch chi Ken Owens
A 'Lawr Ar Lan Y Môr’?
Elin: Fi giciodd y bêl rygbi!
‘Sdim ots am Ken a’i gân,
Nes chwalu mur y Castell
Un nos yn deilchion mân!
Ffion: Maddeuwch i mi’n gofyn,
Ond beth sydd yn eich llaw?
Ai dim ond darn o bapur
Fu’n gorwedd yn y baw?
Elin: (Yn ysgwyd y tocyn yn uchel yn yr awyr)
Beth! Dim ond darn o bapur!
Mae’n ddarn o bapur drud!
Hwn ydyw’r tocyn gorau
I Gwpan Rygbi’r Byd.
Ffion: (Yn camu yn nes at Goliath gan wenu)
Waw! Syr! Chi yw fy arwr!
Mae’ch llygaid fel dau lyn,
Chi’n fwy na Jamie Roberts,
George North ac Alun Wyn!
Elin: O ! Diolch, Ffion Cara!
Ond rhaid cefnogi’r gwan!
Paid ti â byth anghofio
Diwrnod gêm Siapan!
Ffion: Mae’r Urdd yn cofio gweiniaid
O hyd mewn pedwar ban,
A rhaid i ninnau gofio
Trueiniaid ymhob man.
Elin: Fe gei di’r tocyn gorau
I Gwpan Rygbi’r Byd,
Gofala di amdano -
Mae hwn yn docyn drud!
(Mae hi’n rhoi’r tocyn ac mae llygaid Ffion yn goleuo)
Fe ddes i draw i Gymru
Ar wibdaith ore’ ‘rioed,
I glywed Gareth Blainey’n
Sylwebu ar bêl droed!
(Ffion yn gafael yn y tocyn ac yn rhedeg o'r pulpud)
Ond heddiw mae’n rhaid cofio
Wrth i ni ddod ynghyd,
Bod rhywrai gwan yn rhywle
Sy’n croesi ffiniau’r byd.
Elin: Gweddïwn:
Ffion: Dysg i mi, Dad, i wneud fy rhan
Yn cynorthwyo’r tlawd a’r gwan.
Elin: Dysg i mi fod ar hyd fy oes
Yn gyfaill agos ym mhob loes.
Ffion: Pâr im groesawu, nawr, ein Tad,
Y ffoaduriaid hyn i’n gwlad.
Elin: Rho i ni glust i wrando’u cri’,
A lle yn ein calonnau ni.
Ffion: Ym mhob dioddef, Arglwydd mawr,
Rho obaith newydd gyda’r wawr.
Elin: Boed diwedd ar ryfeloedd byd
A’th gariad di’n goleuo’r byd. Amen
Yn hwyl, a neges y ddrama a’r weddi, derbyniwyd adnodau’r plant. Wrth sgwrsio â’r plant, bu Dyfrig yn cyfeirio at Gwpan Rygbi'r Byd, ac addas felly, mai pêl oedd ganddo i ddangos i'r plant; a'i neges dwt, a phwysig oedd mai cyfrinach chwarae yw cyd-chwarae. Onid dyma hefyd, gyfrinach bywyd a chenhadaeth eglwys? Pawb yn cyd-weithio, cyd-dynnu, cyd-ddyheu a chyd-weddïo er clod i Dduw, a lles ein cyd-ddyn.
Wedi i’r plant a’r plantos fynd i’w gwersi, fe’n harweiniwyd at lyfr y Salmau. Gwëwyd sylwadau’r pregethwr o gwmpas gwestiwn oesol cyfoes y Salmydd:...beth yw dyn, iti ei gofio? (Salm 8:4a) ac adnabyddiaeth ddofn Duw ohonom a fynegir mor drawiadol yn Salm 139: Yr wyt wedi cau amdanaf yn ôl ac ymlaen, ac wedi gosod dy law drosof...Ti a greodd fy ymysgaroedd, a’m llunio yng nghroth fy mam (139: 5,13).
Cyfeiriodd ein cennad, at erthygl a ymddangosodd ar wefan Cristnogaeth 21 (20 Medi 2015). Sonia’r erthygl am efeilliaid newydd eu geni yn cael eu hebrwng i’r byd. Yn sydyn, daeth yn amlwg nad oedd y bychain yn gysurus ar wahân. Crëwyd amgylchedd croth iddynt gan fydwraig arbenigol, a gosod y ddau ochr yn ochr mewn dŵr cynnes, symudol. Mewn dim o dro chwilient am ei gilydd, y naill yn cofleidio’r llall mewn gofal a chariad.
Mae angen ein gilydd arnom; mae angen yr estron arnom. Mae crefydd, o’i hanfod yn bersonol, ond byth yn breifat. Arwyddocaol yw natur gymysg y disgyblion. Crëwyd cwmni o’r cymysgedd rhyfedda o brofiad, cefndir a dyhead. Ym mhob rhestr o’r disgyblion (Mathew 10:1-4; Marc 3:13-19 a Luc 6:12-16) gwelir Thomas a Mathew gyda’i gilydd: dau gwbl wahanol, gyda’i gilydd. Camp Iesu oedd cael dau mor wahanol i ddysgu byw gyda’i gilydd a rhannu gwaith a chenhadaeth. Defnyddir yr enw Didymus gan Ioan, wrth sôn am Thomas (11: 16; 20:24; 21:2). Golyga ‘Didymus’, efaill.
Nid oes yr un llwybr at Dduw nad yw’r arwain at gyd-ddyn. Heb ein bod yn estyn am ein gilydd, mewn gofal a chariad, try gair mawr y Testament Newydd cariad, yn gwbl ddiystyr.
Thomas Didymus fu testun ein sylw liw nos hefyd. Cawsom gyfle i ystyried ymateb Thomas i farw Lasarus (Ioan 11:1-27). ‘Roedd y disgyblion yn gweld perygl; ciliodd dewrder Pedr, ac oerodd cariad Ioan; gwelent lwybr i bob man ond i Jerwsalem. Ar hyn dechreuodd Thomas siarad: Gadewch i ninnau fynd hefyd, i farw gydag ef (11:16). Gwnaeth byw yng nghwmni Iesu'r fath argraff ar Thomas fel yr oedd byw hebddo yn amhosibl iddo.
I adnabod Thomas yn iawn, rhaid i ni fynd i’r oruwch ystafell (Ioan 14: 1-14) ac ystyried ei ymateb i Iesu'n sôn am ei ymadawiad. Nid oedd yr un syniad gan Thomas beth oedd Iesu yn ei feddwl wrth sôn am dŷ fy nhad, llawer o drigfannau, a pharatoi lle i chi. Rhaid iddo gael gwybod gan Iesu i ba le ‘roedd Iesu’n mynd, cyn y gallai wybod y ffordd. Mewn atebiad i’r gofyn hwn, dywedodd Iesu, Myfi yw y ffordd, y gwirionedd, a’r bywyd (14:6a). Daw’r ffordd yn amlwg wrth ei cherdded, y gwirionedd yn real wrth fentro arno; a’r bywyd yn wefr o’i fyw.
Yn olaf, ymateb Thomas i'r Atgyfodiad. Pwy na chofia am y disgyblion, druain, wedi ymgynnull ynghyd, yn ddigon digalon (Ioan 20:19-29)? Nid oedd Thomas yno. Beiir ef am aros gartref. Mor bell ag y gwyddom, hon oedd yr unig gwrdd iddo golli, a rhyfedd fel y cofiwn ef. Wrth aros adref y noson honno, collodd Thomas un o gyfarfodydd ryfeddaf hanes! Ymhen wythnos, cynhaliwyd cyfarfod arall, a gofalodd Thomas fod yno. Gwelwyd y Crist byw! Fy Arglwydd a’m Duw! (20:28). Cyffes fawr oedd honno o eiddo Pedr yng Nghesarea Philipi, ond y gyffes hon o eiddo Thomas yw’r peth mwyaf yn y Testament Newydd. ‘Roedd Iesu yn Arglwydd i Tomos cyn ei fod yn Dduw - Iesu yw ei Feistr - Iesu oedd piau Thomas. Nid oedd Thomas yn un o’r gorau i gredu, ond ‘roedd yn athrylithgar mewn caru.
Bendith oedd cael croesawu'r Parchedig Ddr Collin Cowan (Ysgrifennydd Cyffredinol CWM), Fiskani Nyirenda (Cynorthwyydd Personol Dr Cowan), y Parchedig Wayne Hawkins (Ysgrifennydd Rhanbarthol Ewrop CWM), y Parchedig Ddr Geraint Tudur (Ysgrifennydd Cyffredinol UAC) a'r Parchedig Ddr R. Alun Evans (Llywydd UAC) i’n Hoedfa Hwyrol.
Hyfrydwch pur oedd derbyn cyfarchion a neges gan Dr Cowan. Soniodd Dr Cowan amrywiaeth syfrdanol CWM: a community of narratives ydyw, ond we are together - un mewn ffydd, gwasanaeth a gweinidogaeth. Yng nghariad Crist, parhawn i fod yn wahanol, heb fod ar wahân. Gweddïwn am wenau Duw ar genhadaeth CWM. Boed bendith ar weinidogaeth ein Hysgrifennydd Cyffredinol, a swyddogion yr Undeb, un ac oll.
Croesawir y Gweinidog yn ôl i’r Sul-pen-mis (4/10); yn yr Oedfa Deulu, awn i’r afael â phwysigrwydd y rhif 2. Liw nos, fe’n harweinir ganddo i ganol y drain a’r mieri!