Edrychwn ymlaen at y Sul nesaf; y Trydydd Sul yn Adfent. Ein Gweinidog ac amryw o bobl ifanc yr eglwys fydd yn arwain yr Oedfa Foreol (10:30). Diolch rhag blaen i Ioan ac Elwyn, Mali a Cadi, Osian, Elen, Tomos, Amy ac Awena. Bydd Owain yn parhau ar gyfres o bregethau i’n tywys i’r Nadolig: ‘Gweledigaethau’. Eiddo’r Sêr-ddewiniaid: Balthasar, Melchior a Caspar y gweledigaethau’r tro hwn. Y Sêr-ddewiniaid fydd gwrthrych homili ein Gweinidog yn y Gwasanaeth Naw Llith a Charol (18:00). Diolch i bawb a fu ynglŷn â'r trefnu ac i bawb fydd yn cymryd rhan.
Dywed yr ysgolheigion bod y Sêr-ddewiniaid yn debyg iawn, ym myd crefyddol y Persiaid, i’r hyn oedd offeiriaid i’r grefydd Iddewig. Nid diben ynddo’i hyn oedd astudio’r sêr i’r Sêr-ddewiniaid hyn. Astudient y sêr er mwyn cael arweiniad i fyd deall a doethineb. Dyheu, mae’n debyg oedd un o nodweddion mawr eu cyfnod. Nid yr Iddewon yn unig a ddisgwyliai am Feseia ond ‘roedd y byd yn disgwyl - yn dyheu - am Un i’w gwared, gan gynnwys y Sêr-ddewiniaid hyn.
Os mae offeiriaid o fath oeddent, mae’n amlwg eu bod nhw wedi rhoi o’u hamser a’u hegni i feddwl am gyflwr y byd ac ystyried tynged y ddynoliaeth. Ond pobl oedd y rhain a droes eu hystyried a meddwl yn ofal wrth geisio a chwilio. Fe esgorodd eu gofid am gyflwr byd a’r ddisgyblaeth, menter a dyfeisgarwch. Cawsant eu harwain, ond nid rhwydd nac union bu’r arweiniad. Yn sicr bu siom, methiant, a dioddefaint ar y ffordd. Bu’n rhaid wrth fenter i ddechrau’r daith, a bu galw am y dalifyndrwydd mwyaf anhygoel i’w chwblhau.
Bydd cyfle i gyfrannau nwyddau tuag at Fanc Bwyd Caerdydd yn ystod y dydd a bydd y casgliad rhydd yn yr oedfaon tuag at waith Coleg yr Annibynwyr Cymraeg.
Koinônia: Mae ‘na fwy i bryd o fwyd o gwmpas bwrdd na bodloni’r archwaeth am fwyd. Mae’n gyfle i rannu syniadau, i drafod, i gymdeithasu a dod i nabod ein gilydd yn well. Dyna sy’n digwydd yn y Koinônia nos Sul. Diolch i Elfrys am drefnu trwy gydol y flwyddyn.
Dathliad Nadolig PIMS nos Lun (12/12; 19:00-20:30 yn y Festri). Diolch i’r bobl ifanc hyn am ei ffyddlondeb i PIMS. ‘Rydym yn ddyledus i’r rheini sy’n rhoi o’u hamser i gynnal y fenter bwysig hon.
Cymdeithas Ddiwylliannol Eglwys Minny Street. Llongyfarchwn y Swyddogion a’r Pwyllgor ar baratoi rhaglen mor ddiddorol, a llawn amrywiaeth. (13/12; 19:30 yn y Festri) "Dathlu’r Nadolig" yng nghwmni Edward Morus Jones, Sir Fôn
Dathliad Nadolig Babimini. Bore Gwener (16/12; 9:45-11:15 yn y Festri): gwên, a chroeso, cwmni a phaned i’r rhieni; ac i’r plantos: hwyl a chân, chwarae, chwerthin ... a Siôn Corn! Gorffwysed bendith ar Fabimini.
Multiple Religious Belonging Conference (14-16/12): ein Gweinidog a’r Parchedig Dyfrig Rees (Tabernacl, Pen-y-bont ar Ogwr) fydd yn cynrychioli Undeb yr Annibynwyr yn y gynhadledd hon ym Mirmingham. Boed bendith.