‘O DEUWN OLL yNGHYD …’

Er bod Cymru bellach yn dechrau symud o Gyfyngiadau Lefel 2 i Lefel 1 erys yr anghenraid i gadw pellter cymdeithasol a gwisgo gorchudd wyneb ym mhob lle cyhoeddus dan do, ynghyd â’r anogaeth i sicrhau hylendid dwylo. Yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru, byddwn, felly, yn parhau i gydaddoli yn y capel gan gadw yn fanwl at y canllawiau a rheoliadau.  

 Fodd bynnag, mae canu cynulleidfaol bellach yn cael ei ganiatáu fel rhan o addoliad ac edrychwn ymlaen at fedru gwneud hynny yn ddiogel ac o fewn mesuriadau lliniarol priodol. Mae’r  angen i gadw pellter yn parhau i gyfyngu’n sylweddol ar nifer y gynulleidfa a all fod yn y capel a rhaid felly bydd dilyn y cyfarwyddiadau manwl a ddosbarthwyd i’r aelodau.  

Gan na fydd pawb o’n haelodau mewn ffordd i ystyried mynychu’r addoliad yn y capel, parhawn hefyd gyda’r trefniant sydd yn ein galluogi i ddilyn yr addoliad trwy gyfrwng Zoom neu i fyfyrio’n bersonol drwy gyfrwng taflenni a ddosbarthwyd.

Yfory, braint fydd cael derbyn cenadwri y Parchedig Eirian Wyn Lewis, Mynachlog-ddu a Maenclochog am 10:30yb.

Boed bendith Duw ar y Sul.