Er bod Cymru bellach ar Lefel Rhybudd 0 nid ydym wedi cyrraedd sefyllfa lle gallwn roi heibio pob mesur amddiffyn. Mae gwisgo gorchudd wyneb mewn llefydd cyhoeddus dan do yn parhau yn anghenraid cyfreithiol ac mae’r angen i gynnal asesiad risg penodol a chymryd camau rhesymol i leihau unrhyw gysylltiad â’r feirws ynghyd â’i ledaeniad yn meddwl ein bod, am y tro, yn parhau i gadw at ganllawiau cadw pellter cymdeithasol a sicrhau hylendid dwylo. Rhaid felly parhau i ddilyn y cyfarwyddiadau manwl a ddosbarthwyd i’r aelodau. Gan na fydd pawb o’n haelodau mewn ffordd i ystyried mynychu’r addoliad yn y capel, parhawn hefyd gyda’r trefniant sydd yn ein galluogi i ddilyn yr addoliad trwy gyfrwng Zoom.
Boed bendith ar weinidogaeth y Parchedig Ddoctor R. Alun Evans yn ein plith bore Sul yr 22ain am 10:30.