Canys lle mae dau neu dri wedi ymgynnull yn fy enw i, yno yr ydwyf yn eu canol hwynt.
(Mathew 18:20 WM).
Gyda brawddeg fel hon mae’n werth mynd yn ôl i’r ysgol a gofyn p’run yw’r prif gymal – the principle clause? Yma y mae dechrau rhag inni fynd ar gyfeiliorn. Y prif gymal yw yno yr ydwyf. Dyma gymal canolog ein ffydd: yno yr ydwyf.
Felly, shwt mae heddiw? Sut mae bywyd?
Os ydych mor hapus â mwnci’n chwilio chwain: yno yr ydwyf meddai Iesu.
Os ydych mor fodlon eich byd â pharot a ddigwyddodd landio ar goconyt – yno yr ydwyf.
Os yw bywyd fel Rubik’s Cube wedi’i orffen – yno yr ydwyf.
Os ydych yn teimlo fel darn Meccano mewn llond bocs o Lego: yno yr ydwyf.
Os ydych yn gweld y byd yn llwch i gyd: yno yr ydwyf.
Os ydych yn teimlo fel llong heb hwylbrenni ar y môr: yno yr ydwyf.
Os ydych yn niffeithwch unigrwydd: yno yr ydwyf.
Cofia, cofiwn mai addewid fawr Iesu oedd cynnig ei hun yn yr amser presennol yn barhaus: Wele, yr ydwyf fi gyda chwi bob amser.
Yno yr ydwyf bob amser.
(OLlE)