Y Flwyddyn 70 ac Efengyl Marc (4): Cyfeillion Iesu o Nasareth (Marc 2: 13-17)
Efengyl Marc a ysgrifennwyd gyntaf yng nghyfnod cwymp Jerwsalem a’r Deml. Bu i’r Iddewon wrthryfela yn erbyn yr Ymerodraeth Rufeinig; gan fod Duw o’u plaid, onid oedd buddugoliaeth yn sicr? Cafwyd siom a cholledion; dinistriwyd y Deml. Pam ddigwyddodd hyn? Rhaid oedd cynnig atebion. Wedi cwymp Jerwsalem, dim ond y Phariseaid a’r Iddewon Cristnogol oedd yn weddill. Mynnai’r Phariseaid mai canlyniad esgeulustod y bobl o ofynion Cyfraith Duw oedd cwymp Jerwsalem; rhaid oedd cael y bobl, o’r newydd, i dderbyn a bod yn ufudd i’r Gyfraith honno. Mynnai’r Iddewon Cristnogol mai canlyniad esgeulustod y bobl o neges Cyfraith Duw mewn cnawd - Iesu Grist - oedd dinistr y Deml. Iddynt hwy, rhaid oedd cael y bobl i dderbyn neges cariad Iesu Grist. Wrth wraidd hyn i gyd oedd y ddealltwriaeth o natur Duw.
Mae dwy neges bwysig yn hanes galwad Lefi, fab Alffeus (Marc 2:13-17). Yr amlycaf: bu galwad: Canlyn fi; bu ateb: Cododd yntau a chanlynodd ef (Marc 2: 14). Pwysicach, er hynny, yr hyn ddigwyddodd nesaf: ... yr oedd (Iesu) wrth bryd bwyd yn ei dy, ac yr oedd llawer o gasglwyr trethi ac o bechaduriaid yn cyd-fwyta gyda Iesu a’i ddisgyblion ... (Marc 2: 15) Diddordeb pennaf Marc yw bod pechaduriaid a phublicanod yn eistedd wrth fwrdd Lefi fab Alffeus. Nid yw hyn yn ofid i Iesu Efengyl Marc; eisteddai gyda hwy yn fodlon a chyd-fwyta’n llawen. Metha’r Phariseaid ddeall hyn gan mai gofynion y Gyfraith, a oedd yn gwahardd y fath gyd-fwyta, oedd yn bwysig iddynt hwy. Neges o gariad oedd neges Iesu Grist, a’r cariad hwnnw i bawb. I Iddewon y cyfnod ‘roedd cyd-eistedd i fwyta yn arwydd o uniaethu â’r rhai a oedd yn eistedd wrth yr un bwrdd. Dyma arwydd o gysylltiad agos. Nid y ffaith bod Iesu’n ymwneud â phechaduriaid a chasglwyr trethi oedd yn cynddeiriogi’r Phariseaid ond, yn hytrach, ei fod yn cyd-fwyta â hwy. Ar ben hyn Galilead oedd Iesu. ‘Roedd pobl Jerwsalem yn ddilornus o bobl Galilea; fe’u hystyriwyd i fod yn amhur o ran gwaed, yn Iddewon anghyflawn.
Wedi iddo fynd ymlaen ychydig gwelodd (Iesu) Iago fab Sebedeus ac Ioan ei frawd (Marc 1:19). Yn arfer y cyfnod, adnabuwyd pobl yn ôl enw’u tad. Er y cynharaf o'r efengylau ni cheir yn Efengyl Marc yr un cyfeiriad at eni Iesu Grist nag at Joseff ... O ble cafodd hwn y pethau hyn? Onid hwn yw’r saer, mab Mair ... (Marc 6:3)! Mae’r ergyd yn amlwg. Nid oedd neb yn siŵr pwy oedd tad Iesu. Onid gwell felly fyddai i Marc fod wedi hepgor hyn? Na, mae hyn yn allweddol i neges Marc. Nid disgyn megis arwr i waredu a wnaeth Iesu, ond uniaethu ei hun â ni yn llwyr a llawn. Dyna pam mae’r Phariseaid yn ymddrysu a gwylltio! Wrth eistedd i fwyta gyda Lefi, uniaethodd Iesu ei hun ag ef. Nid enw yw Alffeus ond addasiad Groegaidd o’r gair Hebreig Chalphai - Anhysbys. Nid oedd neb yn siŵr pwy oedd tad y naill a’r llall; trwy gyfrwng y naill - Iesu - daeth y llall - Lefi - i wybod, deall a derbyn mai plant i Dduw oeddent. Brodyr.
Mae tebygrwydd rhwng y flwyddyn 70 a 2016. Mae’r Deml yng Nghymru’n sarn. Darfu'r hen ffordd o grefydda; rhaid ceisio deall beth ddigwyddodd ddoe er mwyn darganfod y ffordd ymlaen i yfory. Yn ôl Marc, un warant o fendith sydd: cariad. Gwelodd Iesu Lefi yn ei swyddfa pan oedd pawb arall yn esgus nad allent ei weld: Nid ar y cryfion, ond ar y cleifion y mae angen meddyg; i alw pechaduriaid, nid rhai cyfiawn, yr wyf fi wedi dod (Marc 2: 17). Pan siaradodd Iesu ag ef gyntaf, ‘roedd Lefi yn dal yn ei bechod. Rhyfeddod Efengyl Iesu yw bod Duw yn ein caru ni ymhell cyn i ni sylweddoli hynny. Onid dyna ddywedwn adeg bedyddio? Yn y bedydd mynegwn ... Duw yn caru’r plentyn bach hwn ... cyhoeddir i Grist farw ei fwyn heb ymgynghori ... gwnaed hyn drosto, cyn iddo gael ei eni, a chyn i neb feddwl amdano. Estyn Duw ei gariad tuag atom ymhell cyn i ni sylweddoli hynny. Dyna pam dyhea pobl o hyd am gael clywed gennym ni a’n tebyg neges am gariad mawr, dwfn, eang ac agored: cariad nad sydd yn nacau, na dirmygi, nac esgymuno neb. A nyni eto’n bechaduriaid, dangosodd Duw ei gariad tuag atom. (Rhufeiniaid 5:8)