Edrychwn ymlaen at yr Oedfa Foreol Gynnar dan arweiniad Owain (13/5 am 9:30 yn y Festri). ‘5kg’ fydd thema’r Oedfa hon! Dewch â chroeso i gael deall mor bwysig yw’r ‘5kg’ i fywyd, cenhadaeth a gwasanaeth yr eglwys leol. Bydd cyfle i gyfrannu tuag at GYMORTH CRISTNOGOL yn oedfaon y dydd a bydd hefyd cyfle i gyfrannau nwyddau tuag at Fanc Bwyd Caerdydd. Bydd brecwast bach a nwyddau Masnach Deg yn y Festri rhwng y ddwy Oedfa Foreol.
Yn yr Oedfa Foreol (10:30) cawn dystio i fedydd Nel. Yn homili’r Gweinidog cawn gyfle i ystyried y cwestiwn oesol gyfoes, bythol newydd: A oes gair oddi wrth yr Arglwydd? (Jeremeia 37:17). Bydd cyfle eto i gyfrannu tuag at Gymorth Cristnogol yn yr Oedfa hon a bydd hefyd cyfle i gyfrannau nwyddau tuag at Fanc Bwyd Caerdydd.
Ein braint pnawn Sul (14:30), fel eglwys, fydd cael bod yn gyfrifol am baratoi te i’r digartref yn y Tabernacl, yr Âis.
Liw nos, am 18:00; da fydd ymuno yng Ngŵyl Bregethu Eglwys y Crwys (Heol Richmond). Pregethir gan y Parchedig Marcus Robinson (Caernarfon). Ni fydd Oedfa Hwyrol ym Minny Street. Hyfrydwch, fel eglwysi’r ddinas, yw cael y cyfle i gyd-addoli a chyd-dystio. Duw a fo’n blaid i ni gyd yn ein gweinidogaeth.
Bydd ein Diaconiaid yn cwrdd nos Lun. Gofynnwn am arweiniad Duw wrth edrych a threfnu i’r dyfodol.
Dydd Iau (17/5; 10:30 -13:00): Taith Gerdded yn ardal Llandaf (manylion yng nghyhoeddiadau'r Sul).
Babimini bore Gwener (18/5; 9:45-11:15 yn y Festri): gwên, a chroeso, cwmni a phaned i’r rhieni; ac i’r plantos: hwyl a chân, chwarae a chwerthin. Gorffwysed bendith ar Fabimini. ‘Rydym yn ddyledus i’r rheini sy’n rhoi o’u hamser i gynnal y fenter bwysig hon.