'BETHANIA': ESTHER

Fe ddown heddiw i ddiwedd ein hastudiaeth o Lyfr Esther.

Esther 9: 30-32

Sefydlwyd Pwrim i gadw’r waredigaeth mewn cof. Dyma’r disgrifiad a geir o’r ŵyl yn adnod 22: Megis y dyddiau y cawsai yr Iddewon ynddynt lonydd gan eu gelynion, a’r mis yr hwn a ddychwelasai iddynt o dristwch i lawenydd, ac o alar yn ddydd daionus: gan eu cynnal hwynt yn ddyddiau gwledd a llawenydd, a phawb yn anfon anrhegion i’w gilydd, a rhoddion i’r rhai anghenus.

Daeth yr ŵyl yn boblogaidd iawn yn yr Oesoedd Canol, daeth Pwrim yn dymor llawenhau. Erbyn heddiw, erys y pwyslais ar lawenhau: gwledd a llawenydd, ond fe gydiwyd hefyd yn yr hyn a welir yn adnod 31: I sicrhau y dyddiau Pwrim hynny yn eu tymhorau, fel yr ordeiniasai Mordecai yr Iddew, ac Esther y frenhines, iddynt hwy, ac fel yr ordeiniasent hwythau drostynt eu hun, a thros eu had, eiriau yr ymprydiau a’u gwaedd.

Esther 10

Teyrnged i Mordecai a’r brenin Ahasferus a geir yn y bennod olaf. Canmolir Mordecai fel gŵr doeth a charedig, yn bwysig ym materion ymerodrol ac yn cael ei garu gan yr holl Iddewon.

Beth felly a ddywedwn am Lyfr Esther?

Dywed rhai bod llyfr Esther yn gampwaith! Mae gennym y cnaf Haman; Esther yr arwres brydferth a dyfeisgar; a’r brenin Ahasferus, druan ohono, mae rhywbeth comig amdano, pawb yn ei dwyllo. Mae’n wir nad yw enw Duw yn y llyfr hwn yn unman, ond, yng nghysgod un o ddigwyddiadau mwyaf erchyll hanes, yr Holocost - ymgais y Natsïaid i ddifa’r Iddewon o diroedd Ewrop - mae hanes Esther yn eithriadol bwysig i’r Iddew a’r Cristion fel ei gilydd.

Fel prif weinidog y brenin Ahasferus, ‘roedd Haman yn ddigon bodlon ar ei fyd. Nesaf at y brenin, ef oedd y pwysicaf yn y deyrnas, ac ‘roedd pawb yn deall hynny. Buasai pawb yn moesymgrymu iddo ... pawb ond un. Iddew o’r enw Mordecai. Wrth i bawb arall gynffonna iddo, safai hwn yn dalsyth. ‘Roedd Haman wedi blino ar ystyfnigrwydd yr Iddew yma! Penderfynodd ddial arno a phob Iddew ym Mersia. Gyda chyfrwys berswâd, argyhoeddodd y brenin fod yr Iddewon yn fygythiad i ddyfodol ei deyrnas; rhaid eu difa yn llwyr ac yn gyfan.

Wedi deall bwriad Haman, aeth Mordecai at ei gyfnither, Esther, brenhines Persia, ac erfyn arni i eiriol ar ei gŵr ar ran ei phobl. ‘Roedd Esther yn gwybod, fod y sawl a âi mewn at y brenin heb ganiatâd yn sicr o’i roi i farwolaeth. Ond er gwaethaf y perygl cydsyniodd Esther, gan ddweud os trengaf, mi drengaf. Ildiodd y brenin i swyn Esther - cyfuniad cyfrwystra a phrydferthwch yn troi cynllun dieflig Haman a’i ben i waered. Syrthiodd Haman i’w fagl ei hun. Crogwyd Haman ar y grocbren y cododd i grogi Mordecai arno.

Hyd y dydd heddiw darllenir hanes Esther mewn synagogau ledled y byd yn ystod gŵyl Pwrim. Rhoddwyd ei dewrder ar gof a chadw am byth.

Ond wedyn, rhaid hefyd cydnabod nad yw llyfr Esther yn grefyddol ei naws o gwbl. Mynega deimladau cenedlaethol ar eu gwaethaf. Yn ogystal â bod y neges grefyddol ar goll, y mae’r elfen foesol hefyd yn bur isel. Sonnir am ddialedd mawr yr Iddewon ar y cenhedloedd, ac y mae’n amlwg mai mewn cyfnod o frwydro caled ac o ddyheu am oruchafiaeth y cyfansoddwyd ef. Nid agorwyd y drws led y pen iddo i mewn i’r Canon Hebreig a bu condemnio mawr arno ar ôl hynny.

Beth felly a ddywedwn am Lyfr Esther?