Sul sawl ‘tro cyntaf’ bu hwn. Heddiw, am y tro cyntaf, bu Nia a Megan yn gyfrifol am ddefosiwn yr ifanc. Fe’n hatgoffwyd gan Nia mai Diwrnod y Llyfr yw dydd Iau nesaf (3/3). Hoff awdur Nia yw David Walliams (gan.1971)! Bu Nia a gweddill y teulu yn mwynhau addasiad llwyfan o Gangsta Granny yn y theatr yn ystod yr wythnos aeth heibio. Wrth nodi mae’r storïau tu mewn i glawr llyfr sydd yn bwysig, aeth yn ei blaen i sôn fod Iesu yn hoffi defnyddio storïau er mwyn dysgu pobl, a’n bod ninnau yn medru dod o hyd i’r storïau hynny rhwng cloriau’r Beibl. Yn yr un modd, roedd Dewi Sant hefyd yn defnyddio storïau, a ninnau'n medru mwynhau a dysgu o’r storïau a gawn am hanes Dewi gan gynnwys y pwyslais mawr ar wneud y pethau bychain.
Arweiniwyd ni mewn gweddi gan Megan, a’r weddi hyfryd honno’n adleisio neges Nia am bwysigrwydd gwneud y pethau bychain.
Heddiw hefyd, oedd y tro cyntaf i’r Parchedig Jill-Hailey Harries ymweld â ni. Yn naturiol felly, bu disgwyl eiddgar am y Sul hwn, a'r cyfle i wrando neges Jill-Hailey; clywsom am ei dull deniadol o bregethu. Gan ddechrau fel swyddog ieuenctid, mae Jill-Hailey Harries wedi bod yn weinidog gyda’r Annibynwyr am 30 mlynedd. Ers diwedd 2011, hi yw Gweinidog gofalaeth Bethel - Trinity sef eglwys Annibynnol Bethel Sgeti ac eglwys Bresbyteraidd Triniti, Parc y Sgeti ac ers dechrau’r mis mae hefyd wedi ychwanegu eglwysi’r Tabernacl a Bethania yn Nhreforys at ei gofalaeth. Mae Jill-Hailey hefyd yn ein cynrychioli fel Annibynwyr fel un o Ymddiriedolwr CWM Ewrop ac yn llais cyfarwydd i ddilynwyr y Munud i Feddwl boreol ar Radio Cymru.
Yn ei neges i’r plant, bu Jill-Hailey’n sôn am George Washington Carver (c.1860-1943; llun uchod). Wedi sylwi ar dlodi’r ffermwyr, penderfynodd George Washington Carver fod yn rhaid gwneud rhywbeth i’w cynorthwyo. Llwyddodd i amrywio ar eu cynnyrch, a’i hargyhoeddi i dyfu cnau mwnci (peanuts). Bu’r llwyddiant mor ysgubol nes creu gormod o lawer o gnau, a neb gwir yn siŵr beth i wneud â hwy. Felly, dyma Georgeyn dod eto i’r adwy! Gofynnodd Jill-Hailey i’r plant i ddyfalu beth ellir ei greu allan o gnau mwnci? Peanut Butter oedd yr unig awgrym, ond er mawr syndod i bawb, llwyddodd Washington Carver i gael pobl i greu - o gnau mwnci - llaeth, caws, blawd, sebon a ... byrddau ynysu (insultaing boards)! Hyn oll, nid er clod iddo ef ei hun ond er mwyn cynorthwyo pobl eraill. Wrth gloi, cydiodd Jill-Hailey yn nefosiwn ac anogaeth Nia: wrth wneud y pethau bychain yr ydym yn cefnogi a chynorthwyo eraill, a dilyn esiampl Crist.
Daeth yr amser i blant a phlantos yr eglwys fynd i’w gwersi. Dewi Sant yn naturiol ddigon oedd testun y gwersi rheini heddiw, a bu’r plant yn hel meddyliau am ystyr ‘Gwnewch y pethau bychain’ heddiw. Awgrymwyd caredigrwydd, helpu, creu a chadw ffrindiau, diolch, dangos parch at bobl. Paratowyd posteri trawiadol ganddynt i addurno wal y gegin adref, i atgoffa pawb yn y tŷ i wneud y pethau bychain. Yn gydiol wrth ein cynlyn Grawys - Solvitur Ambulando - bu’r plantos yn dysgu am Dduw yn galw Moses.
Duw yn galw Moses - gwaith y plantos.
Nodwyd Mawrth 1af gan Undeb yr Annibynwyr Cymraeg yn ddydd o Eiriolaeth dros Gymru. Darperir, at eich defnydd gennym y diwrnod hwnnw, deunydd defosiwn tawel.
Testun sylw Jill-Hailey'r bore hwn oedd Pryder Nehemeia dros Jerwsalem (1:1-11). ‘Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD...’ Ni chawn y fath ymadrodd o enau Nehemeia. Nid yr hyn a ddywedodd oedd yn bwysig ond yr hyn a wnaeth. Fe gofiwch mai rhyw lond dwrn yn unig o’r genedl a fanteisiodd ar y cyfle i ddychwelyd o’r gaethglud hir ym Mabilon i Jerwsalem. A pha ryfedd!? Dychwelyd i ganol llwyth o annibendod a phentwr o adfeilion. Beth oedd Gair yr ARGLWYDD ynghanol sefyllfa mor druenus? Gwelodd Nehemeia mai galwad i waith oedd yr unig aur perthnasol; torchi llewys, baeddu dwylo, casglu cerrig, cymysgu sment, cydio mewn trywel, chodi muriau’r ddinas, ie hyn oll, ond cyn cael ei bobl i weithio, mynnai Nehemeia weddïo. Ofer y bobl i ddychwelyd o Fabilon heb ddychwelyd at Dduw. Y weddi fawr honno oedd echel ein myfyrdod. Wedi gweld cyflwr torcalonnus Jerwsalem, cymaint oedd ei gonsyrn am ei bobl, fel bu’n rhaid i Nehemeia gyflwyno’r cyfan i Dduw. Mae gennym gonsyrn am Gymru, am eglwysi Cymru, a rhaid cyflwyno’r cyfan i Dduw, gan wybod mae ei fwriad mawr yntau yw cael ei bobl i gydweithio a’i gilydd i adfer cadernid y muriau. Gwaith mawr ydyw, a rhaid, fel Nehemeia, cyflwyno’n hunain a’r gwaith i Dduw, cyn mentro dechrau ar y gwaith. Gwnawn hynny gyda’r argyhoeddiad fod Duw yn abl a pharod i’n harwain yn y gwaith. Nid ein gwaith ni mohono, ond gwaith Duw, ac o’r herwydd gallwn bwyso ar addewid Duw o gymorth. Yn sgil ymroddiad Duw, ymrown. Gan fod Duw wedi ymrwymo i’n cynnal yn y gwaith, ymrwymwn i ddal ati yn y gwaith hwnnw.
Parhau, a datblygu neges pregeth y bore - pwysigrwydd gweddi - wnaeth ein cennad gwadd yn yr Oedfa Hwyrol. Testun ein sylw oedd hanes Solomon yn cysegru’r Deml o 2 Cronicl 7. Tynnwyd ein sylw at adnod agoriadol y bennod: Wedi i Solomon orffen gweddïo, daeth tân i lawr o’r nefoedd ac ysu’r poethoffrwm a’r aberthau a llanwyd y tŷ â gogoniant yr ARGLWYDD. Heb nacau dim ar bwysigrwydd gweddi, mynnai Jill-Hailey fod yn rhaid hefyd am y parodrwydd i ddyheu am bresenoldeb Duw, nid yn achlysurol, ond bob amser. Yn ein byw a’n bod, rhaid meithrin yr ymwybod o’r Duw sydd yn llond pob lle, presennol ymhob man. (David Jones, 1805-68). Man cychwyn pob gwir addoliad yw ymdeimlo â gogoniant Duw. A ydym yn y weithred o addoli yn ymdeimlo â goginiant Duw, fel Solomon gynt? Gogoniant brawychus ydyw, ond goginiant sy’n ennyn rhyfeddod, cariad, diddordeb, chwilfrydedd. Mae gogoniant Duw yn ein tynnu ato, yn ein gwahodd i gyfranogi ohono, a hynny bob amser, ac o dan bob amgylchiad.
Bu amryw o'n haelodau, rhwng y naill oedfa a'r llall, mewn gwasanaeth arbennig iawn i ddathlu pen-blwydd Llanfair yn 24 oed. Diolch i Dduw am 24 o flynyddoedd o genhadaeth, gwasanaeth ac addoliad yng nghymuned Penrhys.
Mawr ein diolch am holl fendithion y Sul.
Edrychwn ymlaen at Ddydd Gweddi Fyd-eang y Chwiorydd (4/3): gwasanaeth ar y thema Derbyniwch Blant, Derbyniwch Fi ym Minny Street - cymerir rhan gan chwiorydd o nifer o eglwysi Cymraeg Caerdydd gan gynnwys chwiorydd Minny Street. Paratowyd y trefn gwasanaeth eleni gan Chwiorydd Cristnogol Ciwba.
Bydd oedfaon y Sul nesaf (6/3) dan arweiniad ein Gweinidog. Cynhelir Oedfa Deulu am 10:30. Bydd paned, pice ar y maen a nwyddau Masnach Deg yn y Festri wedi’r Oedfa. Liw nos, am 6yh parhawn gyda chyfres pregethau'r Grawys 2016: 'Ffydd a Thrais’. Ystyrir y cysylltiad rhwng terfysgaeth â thlodi byd-eang (Mathew 25:31-46).