Edrychwn ymlaen at y Sul nesaf; Sul llawn, ac amrywiol ei fendithion: Yn ein Hoedfa Deulu (10:30) cawn dystio i fedydd Gruffudd. Wrth y bwrdd Cymundeb cawn gyfle i gydymdeimlo â’r galarus yn ein plith, a chofio’r aelodau hynny sy’n methu a bod gyda ni, gan bellter ffordd, cystudd neu henaint.
Er nad yw plant yn cymuno yn eglwys Minny Street, mae’n fwriad gennym fod y plant a’r plantos yn dysgu beth yw arwyddocâd y ddefod hon. I wneud hynny, rhaid iddynt ddeall beth sydd yn digwydd, ac o’r herwydd symleiddiwyd yr eirfa ac addaswyd y delweddau’r mymryn lleiaf i gynnwys, addysgu a pharatoi’r ifanc yn ein plith.
Bydd paned a nwyddau Masnach Deg yn y Festri wedi'r oedfa.
Ein braint pnawn Sul (14:30), fel eglwys, fydd cael bod yn gyfrifol am baratoi te i’r digartref yn y Tabernacl, yr Âis.
Liw nos am 18:00, Oedfa Hwyrol. Echel myfyrdod Owain Llyr fydd dwy adnod; y naill yn gyfarwydd: Gwisgwch amdanoch yr Arglwydd Iesu (Rhufeiniaid 13:14). Y llall yn anghyfarwydd: Diosg gwisg dy alar a’th adfyd, a gwisgo am byth harddwch y gogoniant sy’n tarddu o Dduw. (Baruch 5:1). Cawn gyfle i ystyried yn benodol nawr am ddau fath o wisg sydd yn rhaid diosg os ydym yn hytrach i wisgo mantell y cyfiawnder sydd o Dduw. (Baruch 5:2). Boed bendith.
Bydd ein Diaconiaid yn cwrdd nos Lun. Gofynnwn am arweiniad Duw wrth edrych a threfnu i’r dyfodol.
Koinônia amser cinio dydd Mercher (6/6): Mae ‘na fwy i bryd o fwyd o gwmpas bwrdd na bodloni’r archwaeth am fwyd. Mae’n gyfle i rannu syniadau, i drafod, i gymdeithasu a dod i nabod ein gilydd yn well. Dyna sy’n digwydd yn y Koinônia misol.
6-9/6 Cyfarfodydd Blynyddol Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, Aberaeron. Eglwysi Cyfundeb Ceredigion sydd yn croesawu prifwyl yr enwad eleni. O ystyried yr anawsterau a’r cyfrifoldeb sydd ynglŷn â chynnal y cyfarfodydd blynyddol, mae eglwysi Ceredigion i’w canmol am gwblhau’r trefniadau rhag blaen â’r fath raen. Dylid diolch i’r Ysgrifennydd Cyffredinol a Gweinyddol, ac i staff yr Undeb, un ac oll, am eu gwaith gan weddïo am fendith Duw ar y cyfarfodydd pwysig hyn.