Gan obeithio y bydd i Owain lwyddo i groesi’r Swnt yn ddiogel o Ynys Enlli, edrychwn ymlaen at yr Oedfa Deulu bore Sul (10:30). Adeiladir eglwys o flociau a chyflwynir negeseuon allweddol am dyfiant a datblygiad ein gweinidogaeth gan ... bentwr anniben o hambyrddau, potel o saws coch, bwrdd gwyddbwyll a llond bocs o greonau. Bydd paned a nwyddau Masnach Deg yn y Festri wedi'r Oedfa.
Liw nos, Oedfa Gymundeb (18:00). Echel myfyrdod ein Gweinidog fydd cwestiwn mawr y dynion mewn gwisgoedd llachar: "Pam yr ydych yn ceisio ymhlith y meirw yr hwn sy’n fyw?" (Luc 24:5). Wrth y bwrdd Cymundeb cawn gyfle i gydymdeimlo â’r galarus yn ein plith, a chofio’r aelodau hynny sy’n methu a bod gyda ni, gan bellter ffordd, cystudd neu henaint. Bydd paned a nwyddau Masnach Deg yn y Festri wedi’r Oedfa Hwyrol. Boed bendith.
Nos Lun (2/7; 19:00-20:30) PIMS: Swper pen tymor.
Babimini bore Gwener (6/7; 9:45-11:15 yn y Festri): gwên, a chroeso, cwmni a phaned i’r rhieni; ac i’r plantos: hwyl a chân, chwarae a chwerthin. Gorffwysed bendith ar Fabimini. ‘Rydym yn ddyledus i’r rheini sy’n rhoi o’u hamser i gynnal y fenter bwysig hon.