Y Groes Geltaidd fydd canolbwynt ein sylw yn yr Oedfa Foreol Gynnar (9:30). Gwahoddir ni, un ac oll, i’r cylch!
Yn yr Oedfa Foreol (10:30) bydd ein Gweinidog yn gorffen ei gyfres o bregethau ar Wynfydau Efengyl Mathew.
Gwyn eu byd y rhai a erlidir o achos cyfiawnder, oherwydd eiddynt hyw yw teyrnas nefoedd. Gwyn eich byd pan y’ch gwaradwyddant, ac y’ch erlidiant, ac y dywedant bob drygair yn eich erbyn er fy mwyn i, a hwy yn gelwyddog. (Mathew 5:10,11)
Erledigaeth! Dyna y mae’r sawl a ddisgrifiwyd yn y gwynfydau blaenorol i’w ddisgwyl. Onid peth rhyfedd yw llongyfarch person oherwydd ei fod o dan erledigaeth? Trafodir hyn oll yng nghyd-destun Datguddiad 7:9-17.
Gan mai Sul y Gweddnewidiad yw’r Sul hwn, bydd ein Gweinidog, liw nos (18:00) yn ymdrin â chofnod Luc o weddnewidiad Iesu (Luc 9:28-36). Ei destun fydd yr adnod hon: Yr oedd Pedr a’r rhai oedd gydag ef wedi eu llethu gan gwsg, ond deffroesant a gweld ei ogoniant ef ... (Luc 9:32). Mae cwsg ofn, anobaith a difaterwch yn gwasgu, gwasgu. Wedi ein llethu, rhaid deffro - deffro, neu fethu gweld gogoniant ein Harglwydd byw a bendigedig.
Bydd ein Diaconiaid yn cwrdd nos Lun. Gofynnwn am arweiniad Duw wrth edrych a threfnu i’r dyfodol.
Cymdeithas Ddiwylliannol Eglwys Minny Street, (13/2; 19:30 yn y Festri): “Fy Milltir Sgwâr” yng nghwmni Helen Emanuel Huws a John Gilbert Evans.
Koinônia amser cinio dydd Mercher (14/2): Mae ‘na fwy i bryd o fwyd o gwmpas bwrdd na bodloni’r archwaeth am fwyd. Mae’n gyfle i rannu syniadau, i drafod, i gymdeithasu a dod i nabod ein gilydd yn well. Dyna sy’n digwydd yn y Koinônia misol.
Babimini bore Gwener (16/2; 9:45-11:15 yn y Festri): gwên, a chroeso, cwmni a phaned i’r rhieni; ac i’r plantos: hwyl a chân, chwarae a chwerthin. Gorffwysed bendith ar Fabimini. ‘Rydym yn ddyledus i’r rheini sy’n rhoi o’u hamser i gynnal y fenter bwysig hon.