Edrychwn ymlaen at y Sul nesaf; Sul llawn, ac amrywiol ei fendithion: Gwrthrychau ein Hoedfa fore Sul (10:30) fydd jar wydr gwag a llawn. Wrth y bwrdd, bydd sôn am Dwight Eisenhower (1890-1969) ac Albert Camus (1913-1960). Hyfrydwch gennym, y Sul hwn eto fydd cael derbyn un o’n pobl ifanc, Elwyn i gyflawn aelodaeth o Eglwys Iesu Grist. Hefyd, cawn gyfle i gydymdeimlo â’r galarus yn ein plith, a chofio’r aelodau hynny sy’n methu a bod gyda ni, gan bellter ffordd, cystudd neu henaint.
Er nad yw plant yn cymuno yn eglwys Minny Street, mae’n fwriad gennym fod y plant a’r plantos yn dysgu beth yw arwyddocâd y ddefod hon. I wneud hynny, rhaid iddynt ddeall beth sydd yn digwydd, ac o’r herwydd symleiddiwyd yr eirfa ac addaswyd y delweddau’r mymryn lleiaf i gynnwys, addysgu a pharatoi’r ifanc yn ein plith.
Bydd paned a nwyddau Masnach Deg yn y Festri wedi'r oedfa.
Liw nos (18:00) Nos Sul, y cyntaf o bum pregeth am Martin Luther a’r Diwygiad Protestannaidd: Cymundeb y Saint (Effesiaid 2:19-20; Colosiaid 1:12; Datguddiad 21:1-6a)
PIMS nos Lun (6/11). Bydd y PIMSwyr iau (Blynyddoedd 7-9) yn ymweld â’r Boiler House Graffiti Project (18:30-20:00). Bydd y cwmni hŷn (Blynyddoedd 10-13) yn cwrdd yn y festri fel arfer (19:00-20:30)
Cymdeithas Ddiwylliannol Eglwys Minny Street, (7/11; 19:30 yn y Festri) fydd noson yng nghwmni John Esau: "O’r Heddlu i’r Weinidogaeth".
Koinônia amser cinio dydd Mercher (8/11): Mae ‘na fwy i bryd o fwyd o gwmpas bwrdd na bodloni’r archwaeth am fwyd. Mae’n gyfle i rannu syniadau, i drafod, i gymdeithasu a dod i nabod ein gilydd yn well. Dyna sy’n digwydd yn y Koinônia misol.
Cyngor Eglwysi Cymraeg Caerdydd: Y Parchedig Gethin Rhys (Cytûn) yn annerch ar "Y sefyllfa wleidyddol sydd ohoni!" 9/11 (19:30) yng Nghapel y Crwys, Heol Richmond. Gweddïwn am wenau Duw ar waith a chenhadaeth Cyngor Eglwysi Cymraeg Caerdydd.