‘Diolch i’r chwiorydd!’ Pa sawl gwaith y clywsom y geiriau rheini yn ein heglwysi? Un o bennaf gymwynasau i deulu’r ffydd yw Dydd Gweddi Chwiorydd y Byd. Heddiw gweddïwn:
O caned pawb o bedwar ban y byd,
"Fy Nuw a’m Rhi!"
Mewn dychymyg a dyhead y cannodd George Herbert (1593-1633 cyf. W D. Williams, 1900-85) ei emyn tros 400 mlynedd yn ôl. Erbyn heddiw, gwireddwyd ei freuddwyd gan y chwiorydd, a chysylltu dros yr eangderau pell mewn mawl i Dduw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist.
(OLlE)