Y PARCHEDIG IEUAN DAVIES

Daeth y newyddion trist i law am farwolaeth y Parchedig Ieuan Davies, a fu yn gweinidogaethu ym Minny Street 1989-98. Cofiwn yn ddiolchgar amdano a dymunwn bob bendith a chydymdeimlad i Eunice, Nia, Lois a’r teulu cyfan yn eu hiraeth am briod, tad a thad-cu annwyl a pharchus.