Sul y Tadau a phlymio gwnawn i ddyfnderoedd yr Hen Destament! Absalom a’i dad, Dafydd fydd testun sylw Owain yn homili ein Hoedfa Foreol (10:30; 2 Samuel 18:18). Cynhelir Ysgol Sul. Liw nos yn ein Hoedfa Hwyrol (18:00) bydd Owain yn ein harwain i 2 Brenhinoedd 6. Bydd cwestiwn y gwas i Eliseus: O feistr, beth a wnawn ni? (adnod 15) yn gyfrwng i ystyried gwir hyd a lled gofal Duw amdanom fel Tad. Boed bendith.
Bydd y gymdeithas yn parhau yn Koinônia: swper blasus a sgwrs ddifyr mewn bwyty Eidalaidd cyfagos.
Koinônia amser cinio dydd Mercher (20/6): Mae ‘na fwy i bryd o fwyd o gwmpas bwrdd na bodloni’r archwaeth am fwyd. Mae’n gyfle i rannu syniadau, i drafod, i gymdeithasu a dod i nabod ein gilydd yn well. Dyna sy’n digwydd yn y Koinônia misol.
Bore Gwener (22/6; 10:00): ‘Llynyddwch’. Paned wrth ymyl llyn llonydd y Rhath. Yn Terra Nova cawn gyfle i drafod, fesul pennod, llyfr Samuel Wells: How then shall we live (Canterbury, 2016). Echel ein trafodaeth fore Gwener fydd Ecology (t.30-36).