Dros y “cyfnod atal byr” rhaid bydd hepgor pob oedfa a chyfarfod yng nghapel Minny Street dros dro. Parheir gyda’r trefniant i gyd-addoli ar fore Sul drwy gyfrwng taflenni yn amlinellu oedfaon a baratowyd gan ein Gweinidog a bydd modd dilyn arweiniad ein Gweinidog drwy gyfrwng Zoom yn unol â’r wybodaeth a ddosbarthwyd i’r aelodau.
Byddwn yn ail-gydio yn ein haddoliad canol wythnos, dydd Mercher 11/11.
Daw manylion dechrau’r wythnos am drefniadau’r Sul 18/11.