Rhoddodd imi resin i’w bwyta, a’m hadfywio ag afalau, oherwydd yr oeddwn yn glaf o gariad.
(Caniad Solomon 2:5 BCN)
Esgor cynnwrf cariad ar flinder, ac mae angen atgyfnerthiad â resin ac afalau. Mae’r ferch yn glaf o gariad.
Mae cyfeiriadau niferus yn y Beibl at wendidau, a dywed Paul fod Duw addo cymorth ym mhob gwendid: ... y mae’r Ysbryd yn ein cynorthwyo yn ein gwendid (Rhufeiniaid 8:26 BCN).
Daw cymorth i’r gariadferch trwy resin (ffrwythau melys beibl.net) ac afalau. Pethau naturiol oeddent, heb ddirgelwch na rhyfeddod yn perthyn iddynt. ‘Roeddent yn agos i iachau, ac wrth law. A yw ein hiachâd a’n bendith ninnau wrth law, yn agos agos?
Benthycwn brofiad Eseia broffwyd yn sbardun i fyfyrdod pellach a gweddi:
Diau efe a gymerth ein gwendidau ni ... Amen.
(OLlE)