Mae’n Oedfa Deulu fore Sul (10:30)! Dewch â chroeso i ddysgu gwers y ‘Stickle Bricks’; i dystio i fedydd Steffan, ac i dderbyn gair bach o gyfarwyddyd gan Angharad.
Cofiwch fore Sul! Hanner Marathon Caerdydd!
Bydd yr heolydd i gyd ar agor ar gyfer yr Oedfa Hwyrol.
Liw nos (18:00) bydd Owain Llyr yn ein hannog i roi ein calon yn y gân! ‘Face the Music’ sydd raid! Rhaid rhoi ein calon yn y gân: Caniad y Bore; yr ‘Haleliwia’ o oratorio 1714 ‘Messiah’ George Frideric Handel (1685-1759); cân y ddynoliaeth a’r cyfanfyd ac yn olaf, yr Alargan - hyn oll er mwyn wynebu a dathlu goblygiadau a chanlyniadau ein ffydd.
Bydd paned a nwyddau Masnach Deg yn y Festri wedi’r Oedfa Foreol a Hwyrol.
Bydd ein Diaconiaid yn cwrdd nos Lun. Gofynnwn am arweiniad Duw wrth edrych a threfnu i’r dyfodol.
Ar ddechrau tymor newydd Cymdeithas Ddiwylliannol Eglwys Minny Street, llongyfarchwn y Swyddogion a’r Pwyllgor ar baratoi rhaglen mor ddiddorol, a llawn amrywiaeth. Ein man cychwyn (3/10; 19:30 yn y Festri) fydd noson yng nghwmni Hefin Mathias: ‘David Davies Llandinam, a’i waith dros heddwch byd’.
Babimini bore Gwener (6/10; 9:45-11:15 yn y Festri): gwên, a chroeso, cwmni a phaned i’r rhieni; ac i’r plantos: hwyl a chân, chwarae a chwerthin.