Edrychwn ymlaen at y Sul nesaf; yr Ail Sul yn Adfent - Sul y Beibl. Ein Gweinidog ac amryw o bobl ifanc yr eglwys fydd yn arwain yr Oedfa Foreol (10:30). Diolch rhag blaen i Efa, Ifan ac Ifan, Shani, Elin a Fred am eu cymorth bore Sul. Bydd Owain yn dechrau ar gyfres o bregethau i’n tywys i’r Nadolig: ‘Gweledigaethau’. Eiddo Ben, y bugail y weledigaeth gyntaf. Gweddïwn y bydd y gyfres hon o bregethau, ynghyd â’r amrywiaeth o gyfarfodydd a gweithgareddau sydd gennym ar y gweill i’r Adfent, yn ein cymhwyso ar gyfer y daith i Fethlehem.
Yn dilyn yr oedfa bydd paned, nwyddau Masnach Deg a Dewch a Phrynwch yn y Festri. Arbrawf yw’r Dewch a Phrynwch i geisio codi arian i’n helusen, Tŷ Hafan. Byddwn yn cynnal y digwyddiad bob deufis tan yr haf nesaf. Nwyddau Nadoligaidd fydd yn cael eu gwerthu ar y stondin y tro hwn.
Liw nos (18:00; Cymundeb) Llyfr y llyfrau fydd testun ein sylw. Llond silff o lyfrau o fewn un clawr. Y cwbl yn un gyfrol, yn storiâu a hanes, yn gyfraith a llythyrau, barddoniaeth a chwedlau; llyfrau doethineb a serch. Llyfr gwahanol i holl lyfrau’r byd; llyfr mwy na holl lyfrau’r byd. Ar Sul y Beibl, buddiol yw atgoffa’n gilydd nad cyffur ond cyffro yw Gair Duw; sicrwydd nid swcwr a geir yn hwn. Pam? Mae’r geiriau’n cyfeirio at y Gair: Do, carodd Duw y byd gymaint nes iddo roi ein unig Fab, er mwyn i bob un sy’n credu ynddo beidio â mynd i ddistryw ond cael bywyd tragwyddol (Ioan 3:16 BCN). Diolch i Connor am ei gymorth yn yr Oedfa hon.
Wrth y bwrdd cawn eto gyfle i gydymdeimlo â’r galarus yn ein plith, a chofio’r aelodau hynny sy’n methu a bod gyda ni, gan bellter ffordd, cystudd neu henaint.
Bydd y Casgliad Rhydd yn Oedfaon y dydd tuag at waith Cymdeithas y Beibl.
Bydd ein Diaconiaid yn cwrdd nos Lun. Gofynnwn am arweiniad Duw wrth iddynt edrych a threfnu i’r flwyddyn newydd.
Adfent 2016: Dathlu’r Nadolig yng nghwmni’r cerddor George Frederic Handel: paned, trafodaeth a thamaid o ginio yn y Festri (6/12; 11:15-13:00).
Bethania nos Fawrth (6/12; 19:30-21:00). Dyma’r pedwerydd o’r cyfarfodydd buddiol hyn. Diolch i Margaret am ein croesawu. Y thema yw ‘Cyfeillion Paul’. Testun ein y sylw yn cyfarfod hwn bydd Lois, Eunice a Damaris.
Koinônia amser cinio dydd Mercher (7/12): Mae ‘na fwy i bryd o fwyd o gwmpas bwrdd na bodloni’r archwaeth am fwyd. Mae’n gyfle i rannu syniadau, i drafod, i gymdeithasu a dod i nabod ein gilydd yn well. Dyna sy’n digwydd yn y Koinônia misol. Diolch i Menna a Robin am drefnu trwy gydol y flwyddyn.