• Y diweddaraf
  • Hafan
  • Amdanom
  • Dyddiadur
  • Yr Ifanc
  • Cysylltu
Menu

Eglwys Minny St.

Street Address
City, State, Zip
Phone Number

Your Custom Text Here

Eglwys Minny St.

  • Y diweddaraf
  • Hafan
  • Amdanom
  • Dyddiadur
  • Yr Ifanc
  • Cysylltu

'YMLAEN': Y SUL A'R WYTHNOS NEWYDD

March 24, 2017 Owain Evans

Dros y Sul, ein braint fel eglwys fydd cael gwrando cenadwri a derbyn arweiniad gan y Parchedig Beti-Wyn James (Caerfyrddin). Gwyddom y cawn ganddi bregethu meddylgar a phregeth fuddiol a bendithlawn. Yn ôl ein harfer, bydd yr Oedfa Foreol am 10:30. Cynhelir yr Ysgol Sul. Parhawn i barchu gorchymyn Iesu, Portha fy ŵyn, a’n llafur yn ddiarbed i hyfforddi ein plant a phobl ifanc.

Ein braint nos Sul (18:00 Ni fydd Oedfa Hwyrol ym Minny Street) fydd ymuno yng Ngŵyl bregethu'r Tabernacl. Pregethir gan y Parchedig Peter Dewi Richards (Caerdydd). Gweddïwn am wenau Duw ar Oedfaon y Sul.

PIMS nos Lun (27/3; 19:00-20:30 yn y Festri): bydd ein pobl ifanc yn dysgu am ddaioni (Galatiaid 5:22). Boed bendith ar y bobl ifanc hyn sydd â chymaint i’w gynnig: doniau, syniadau ffres, ynni a brwdfrydedd. Boed i Dduw fendithio ein llafur gyda’r ifanc. Na fydded inni arbed dim yn ein hymgais i greu o Eglwys Minny Street cartref ysbrydol iddynt.

Cymdeithas Ddiwylliannol Eglwys Minny Street (28/3; 19:00): 'Cinio Pen Tymor' yng Nghlwb Golff yr Eglwys Newydd. Ein Gwestai Gwadd yw Awen Iorwerth.

 

← SALM 119 - GRAWYS 2017'WORLD WATER DAY' →

Eglwys Annibynnol Minny St.
Y Waun Ddyfal, Caerdydd
CF24 4ER

Lawrlwytho
Dogfennau

©minny St 2021