Philipiaid 3:12 - 4:1
… gan anghofio’r hyn sydd o’r tu cefn ac ymestyn yn daer at yr hyn sydd o’r tu blaen, yr wyf yn cyflymu at y nod, i ennill y wobr y mae Duw yn fy ngalw i fyny ati yng Nghrist Iesu (3: 13b&14).
Pwysig yw edrych yn ôl, ond pwysicach o lawer, meddai Paul, yw edrych ymlaen. Mae’r anogaeth Paul yn ein hatgoffa o eiriau Eseia: Peidiwch â meddwl am y pethau gynt. Peidiwch aros gyda'r hen hanes (43: 18).
Dweud mai Eseia a Paul fod gormod o edrych yn ôl, yn ein dallu i'r hyn y mae Duw yn ei wneud heddiw ... nawr. Duw yw hwn sydd yn llond pob lle a phresennol ym mhob man. Duw sydd y tu cefn i ni fel craig yn ein cynnal, ond sydd hefyd ar y blaen yn paratoi’r ffordd, gallwn gyflymu ar hyd y ffordd honno tuag at y nod.
Dyma newyddion da sydd yn heneiddio dim. Duw agos, agos ydyw, Duw heddiw, Duw nawr, Duw sydd, yng ngrym ei gariad anorchfygol yn symud pob pellter, yn difodi meithder ffordd ac amser, ys dywed yr emyn, i sicrhau fod gennym ffordd - ffordd yn nannedd popeth, ffordd newydd a bywiol, ffordd nad oes cerdded yn ôl arni.
Mynnu dweud peth felly a wnaeth Paul yn barhaus wrth yr eglwysi, cyhoeddi a chyhoeddi a chyhoeddi fod credu yng nghariad a gofal Duw yn golygu bod nod i ymgyrraedd ati a gwobr i’w hennill.
Oherwydd yn y nefoedd y mae ein dinasyddiaeth ni, ac oddi yno hefyd yr ydym yn disgwyl Gwaredwr, sef yr Arglwydd Iesu Grist. Bydd ef yn gweddnewid ein corff iselwael ni ac yn ei wneud yn unffurf a’i gorff gogoneddus ef, trwy’r nerth sydd yn ei alluogi i ddwyn pob peth dan ei awdurdod (3: 20&21).
Mae’r syniad o atgyfodiad y corff yn un lletchwith iawn. Hawdd buasai dadlau fod y syniad o atgyfodiad y corff yn perthyn i ffordd o feddwl cyn-wyddonol, onid oes rhaid inni bellach ollwng gafael ar hen fairy-tales y ffydd.
Ond, gwna hynny ddim mo’r tro, gan fod John Polkinghorne, ffisegydd o fri, ac offeiriad yn yr eglwys Anglicanaidd, yn ei lyfr The faith of a Physicist yn ddigon parod i ddatgan fod atgyfodiad y corff yn obaith rhesymol; gan ddadlau fod yr enaid yn gweithio mewn ffordd rhywbeth tebyg i DNA, yn cario o fewn y corff patrwm unigryw o’r hyn ydym. Pan mae’r corff yn darfod, mae Duw yn defnyddio’r patrwm yr enaid i’n ail-greu ni’n gorfforol.
Gwaetha’r modd mae’r Beibl yn dawedog iawn am atgyfodiad y corff. Mae’r Beibl yn gwrthod trafod y mater gyda ni, ond yn hytrach yn mynnu sôn amdano fel un o ddirgelion Duw. Cawn fentro i’r dirgelwch dim ond wrth dderbyn fod a wnelo atgyfodiad y corff nemor ddim a’n ffydd, neu ddiffyg ffydd ni. Yn hytrach, mae atgyfodiad y corff yn dweud rhywbeth radical iawn am wir faint a dyfnder, hyd a lled ffydd Duw ynom ni. Duw sydd wedi buddsoddi’n drwm arswydus yn ein dyfodol ni wrth ein creu ni, bob un ohonom, yn hollol unigryw. Duw sydd wedi mynnu, yn a thrwy Iesu, dod yn un ohonom - cnawd ein cnawd, asgwrn ein hasgwrn. Wrth ystyried hynny, Duw gwirion iawn a fuasai’n taflu ni i gwsg diderfyn, i ddiddymdra mor enfawr a dwfn nes ein colli am byth.
I ysgogi trafodaeth:
A ydym fel pobl ffydd yn meddwl gormod am y pethau gynt, ac yn aros gormod gyda'r hen hanes?
Oherwydd yn y nefoedd y mae ein dinasyddiaeth ni ... Trafodwch eiriau Patrick Thomas: llysgennad y nefoedd ar y ddaear yw’r Cristion ac er gwaethaf ei amherffeithrwydd cynhenid fe ddylai gofio bob amser pwy y mae’n ceisio’i gynrychioli.
Trafodwch eiriau Emyr Roberts: Nid rhyw genadwri feddal, neis, yn cadarnhau rhyw syniadau cysurlon a fo gennym am ddyn ac am Dduw, yw efengyl yr Arglwydd Iesu Grist ... Galwad arnom ydyw i fentro llwybr caled ufudd-dod ... Dyma alwad gyntaf ei fywyd ef arnom - galwad i ufuddhau, nid i gymhellion naturiol, ein hunan-les, nac i safonau ac arferion gwareiddiad secwlar, ond i’r cwbl a wyddom o ewyllys y Duw sanctaidd a chariadlon a’i hysbysodd ei hun trwy ufudd-dod y dyn Crist Iesu.
Beth yw eich barn am her Thomas á Kempis: Y mae gan Iesu yn awr lawer sydd yn caru ei deyrnas nefol, ond ychydig sydd yn dwyn ei groes. Y mae ganddo lawer sydd yn chwennych diddanwch, ond ychydig sydd yn ewyllysgar o oddef adfyd ... Dymuna pawb lawenychu gydag Ef; ychydig sydd yn fodlon dioddef dim er ei fwyn.