Heddiw, Cyhydnos yr Hydref, mae'n rhaid gollwng gafael ar yr Haf a throi i wynebu’r Hydref. Tymor y golau tyner, a’r cysgodion caredig yw’r Hydref. Mae golau tyner yr Hydref yn gyfrwng bendith, mae cysur ynghudd yn y cysgodion mwyn. Gall golau llachar haul yr Haf ein dallu, gall ei wres - heb ofal - ein llosgi. Tueddwn i feddwl mai hanfod pob ‘gwybod’ yw mynd â goleuni i ganol pob tywyllwch, i gael gweld beth sydd yno, ei ddeall ac felly ei adnabod, ac o’i adnabod ei berchenogi. Onid ydym, wrth fynnu cael ‘gwybod’ fel hyn, wedi colli math arall o ‘wybod’ - hen hen wybod ydyw – y ‘gwybod’ sy'n gwybod bod yn rhaid i rai pethau aros yn y cysgodion, oherwydd dim ond o’r golwg mae ambell wirionedd yn gallu byw. Wrth dynnu gwirioneddau felly o’r cysgodion i’r ‘goleuni’, byddant naill a’i yn marw, neu...yn lladd. Mae i bob peth ei bris, hyd yn oed eglurder.
O! Dduw, wele ni yn troi tudalen ac yn croesawu tymor yr hydref:
tymor ffrwythau aeddfed a chnydau breision;
tymor cynhaeaf, diolchgarwch a dathlu;
tymor ailgychwyn ysgol, a choleg;
tymor y gobeithion a'r dechreuadau newydd,
tymor lliwiau euraid y coed a'r perthi,
tymor diosg y dail a byrhau golau dydd
a thymor paratoi ar gyfer gorffwys y gaeaf.
Boed i ni werthfawrogi dy bresenoldeb a'th ofal drosom,
a'th wasanaethu di mewn llawenydd a diolch. Amen.
Addasiad o weddi gan Elfed ap Nefydd Roberts (Amser i Dduw; CLC, 2004)
(OLlE)