Oedfa Foreol fel arfer am 10:30! Cofiwch am yr Hanner Marathon! Gwelir y mapiau isod am gyfarwyddyd. Cynhelir Ysgol Sul. Byddwn yn parhau â’r gyfres ‘Anghymharol Brydferthwch Crist’. Daw’r darlleniad o’r Testament Newydd: Glanhau Dyn Gwahanglwyfus (Luc 5:12-16). Mae prydferthwch yn gwbl anhepgor i’r ffydd Gristnogol gan mai hanfod ein ffydd yw Iesu. Yn y bregeth hon, bydd Owain yn mynd i’r afael â’r prif anhawster yn hyn oll: nid prydferth mo Iesu. Bywyd hyll oedd bywyd Iesu. Ganwyd hwn mewn stabl hyll. Magwyd ef mewn pentref hyll. Ymhlith yr esgymun, ymylol - pobl hyll ei gyfnod - y bu Iesu’n gweinidogaethu, ac o’r herwydd mewn byr amser cafodd marwolaeth hyll ar groes hyll a’r Golgotha hyll. Mae’n debyg mae’r ateb yw Wabi-sabi! Dewch â chroeso i wybod mwy. Boed bendith.
Bydd yr heolydd i gyd ar agor ar gyfer yr Oedfa Hwyrol.
Liw nos (18:00) yn yr Oedfa Hwyrol. Mynydd ein perthynas â Duw fydd testun homili Owain Llyr. Daw’r darlleniad o Lyfr y Salmau (121). Oedfa Gymundeb fydd hon. Cawn gyfle i gydymdeimlo â’r galarus yn ein plith, a chofio’r aelodau hynny sy’n methu a bod gyda ni, gan bellter ffordd, cystudd neu henaint. Boed bendith.
Methu dod i’r Oedfaon? Ymunwch â ni trwy gyfrwng negeseuon trydar @MinnyStreet #AddolwnEf Dechrau toc wedi 10:30/18:00.
Bydd paned a nwyddau Masnach Deg yn y Festri wedi’r Oedfa Hwyrol.
Bydd cyfle i gefnogi Apêl Argyfwng Cymorth Cristnogol tuag at bobl Indonesia yn oedfaon y dydd.
Nos Lun, bydd aelodau PIMS yn ymgodymu â’r Mad Scientist a'r Black Queen! Noson yn yr ‘Adventure Rooms’. Boed hwyl!
Nos Fawrth (9/10; 19:30-20:30): ‘Bethania’. Echel ein trafodaeth eleni yw ‘Ruth ac Esther’. Byddwn yn dechrau astudio'r ail bennod o Lyfr Ruth. Darperir nodiadau ‘Bethania’ rhag blaen ar y wefan hon bore dydd Llun.
Koinônia amser cinio dydd Mercher (10/10): Mae ‘na fwy i bryd o fwyd o gwmpas bwrdd na bodloni’r archwaeth am fwyd. Mae’n gyfle i rannu syniadau, i drafod, i gymdeithasu a dod i nabod ein gilydd yn well. Dyna sy’n digwydd yn y Koinônia misol.