Heno yn y Gymdeithas: “Winifred, Frank a Dicky” yng nghwmni Alun Wyn Bevan.
Winifred, Frank a... Dicky? Pwy yn y byw yw'r tri hyn?
Winifred Margaret Coombe Tennant (1874–1956) - ffeminydd, ymgyrchydd heddwch a hawliau dynol.
Frank Lloyd Wright (1867–1959) - athrylith o bensaer.
Richard Morgan Owens "Dicky" Owen (1876-1932) - chwip o chwaraewr rygbi!
Diolch i Alun am noson hynod ddifyr a hwyliog.