• Y diweddaraf
  • Hafan
  • Amdanom
  • Dyddiadur
  • Yr Ifanc
  • Cysylltu
Menu

Eglwys Minny St.

Street Address
City, State, Zip
Phone Number

Your Custom Text Here

Eglwys Minny St.

  • Y diweddaraf
  • Hafan
  • Amdanom
  • Dyddiadur
  • Yr Ifanc
  • Cysylltu

DWY DDAFAD; MODFEDD A LLATHEN

May 3, 2017 Owain Evans
two-sheep-ref.jpg
IMG_5033.JPG

A fuoch rhywdro yn eistedd yn esmwyth mewn cadair gyffyrddus, yn hel meddyliau am yr hyn y buasech yn ei wneud pe bai gennych egni di-ben-draw, neu lond banc y banciau o arian, neu’r gallu i droi awr yn funud neu’r funud sydyn yn araf awr?

Rhaid i mi gyfaddef, fel sy’n amlwg bellach, fy mod wedi gwneud hynny troeon. Buaswn yn mynd ati i sicrhau hyn ... i wneud y llall ... i ddarganfod yr arall ... ac wrth gwrs, i ddysgu, profi, mwynhau, ac estyn i eraill y cyfle i ddysgu, profi a mwynhau pob hyn, llall ac arall!

Mae stori dau gyfaill yn dod i’r cof. Gofynnodd un i’r llall, ‘Pe bai gennyt filiwn o bunnoedd, a fuaset yn barod i’w rhannu â mi dy gyfaill gorau?’. ‘O! Buaswn, yn sicr; heb os ac oni bai!’ oedd yr ateb a gafodd. ‘Dywed wrthyf’, meddai’r holwr, pe bai gennyt ddwy ddafad a fyddet yn barod i roi un i mi?’ Bu saib o dawelwch - lletchwithdod - ‘Wel, dwi ddim yn gwbl siŵr o’r ateb i’r gofyn yna’ medd y llall o’r hir ddiwedd, ‘oherwydd y drafferth, gyfaill, yw bod gennyf ddwy ddafad!’

‘Rydym, bawb ohonom yn llawn addewidion ac ewyllys da, ond pan ddaw i’r pwynt o weithredu fe gwyd rhyw anawsterau ... o hyd. Y gwir amdani yw bod gennym i gyd rhywbeth i’w roi, ac y mae yna bob amser rywbeth y gallwn ei wneud. Tybiaf, fod yna rywun heddiw, nawr - y funud hon - yn aros am ein cymorth ymarferol, ac nid am ein haddewidion gwag.

Mae modfedd o ‘wneud’ yn gyfwerth â llathen o ‘feddwl am wneud’

(OLlE)

← 'YMLAEN': Y SUL A'R WYTHNOS NEWYDDCYTGAN →

Eglwys Annibynnol Minny St.
Y Waun Ddyfal, Caerdydd
CF24 4ER

Lawrlwytho
Dogfennau

©minny St 2021